Deus repulisti nos. Psal. lx.
O Dduw ffieiddiaist ni, gwasceraist ni, a sorraist: dychwel attom.
2 Gwnaethost i'r ddaiar grynu, a holltaist hi: iachâ ei briwiau, canys y mae yn siglo.
3 Dangôsaist i'th bobl galedi: diodaist ni â gwîn madrondod.
To the extent possible under law, the Text Creation Partnership has waived all copyright and related or neighboring rights to this keyboarded and encoded edition of the work described above, according to the terms of the CC0 1.0 Public Domain Dedication (http://creativecommons.org/publicdomain/zero/1.0/). This waiver does not extend to any page images or other supplementary files associated with this work, which may be protected by copyright or other license restrictions. Please go to http://www.textcreationpartnership.org/ for more information.
O Dduw ffieiddiaist ni, gwasceraist ni, a sorraist: dychwel attom.
2 Gwnaethost i'r ddaiar grynu, a holltaist hi: iachâ ei briwiau, canys y mae yn siglo.
3 Dangôsaist i'th bobl galedi: diodaist ni â gwîn madrondod.
4 Rhoddaist faner i'r rhai a'th ofnant, i fuddu∣goliaethu o herwydd y gwirionedd. Selah.
5 Fel y gwareder dy rai annwyl: achub â'th dde∣heu-law, a gwrando fi.
6 Duw a lefârodd yn ei sancteiddrwydd, (am hynny y llawenychaf) rhannaf Sichem, a meusraf ddyffryn Succoth.
7 Eiddo fi yw Gilead, ac eiddo fi Manasses: Ephra∣im hefyd yw nerth fy mhen, Iuda yw fy neddf-wr.
8 Moab yw fyng-hrochan golchi: ar Edom y bwriaf fy escid, Palestina ymorfoledda di ynofi.
9 Pwy a'm dwg i'r ddinas gadarn? pwy a'm harwain hyd yn Edom?
10 Onid tydi Dduw 'r hwn a'n ffieiddiaist? ac nid eit ti allan ô Dduw gyd â'n lluoedd?
11 Dod ti i mi gynhorthwy rhag cyfyngder: ca∣nys ofer yw ymwared dŷn.
12 Yn Nuw y gwnawn wroldeb, canys efe a sathr ein cystudd-wŷr.