Deus noster refugium. Psal. xlvj.
DVw sydd obaith, a nerth i ni, hawdd ei gael me∣wn cyfyngder.
2 Am hynny nid ofnem pe syfle y ddaiar, a phe symmude y mynyddoedd i ganol y môr.
3 Pe terfysce, a chymmysce ei ddyfroedd, pe cyn∣hyrfe y mynyddoedd gan ei fordwy ef. Selah.
4 Ffrydiau ei afon ef a lawenhânt ddinas Dduw: sef cyssegr presswylfeudd y Goruchaf.
5 Duw sydd o'i mewn hi, nid yscog hi: Duw a'i cynnorthwya yn foreu iawn.
6 Y cenhedloedd a derfyscâsant, y teyrnasoedd a yscogâsant, pan roddes efe ei lef, toddodd y ddaiar.
7 Y mae Arglwydd y lluoedd gyd â ni: y mae Duw Iacob yn amddeffynfa i ni. Selah.
8 Deuwch, gwelwch weithredoedd yr Arglwydd pa anghyfannedd-dra a osododd efe ar y ddaiar.