Deus laudem. Psal. cix.
NA thaw di ô Dduw fy moliant.
2 Canys genau 'r annuwiol, a genau y twyllodrus a ymagorâsant arnaf: â thafod gau y lle∣farasant i'm herbyn.
3 Cylchynasant fi hefyd â geiriau câs, ac ymladda∣sant â mi heb achos.
4 Am fyng-hariadigrwydd i'm gwrthwyneba∣sant: minne a arferais weddi.
5 Gosodasant hefyd i'm herbyn ddrwg am dda: a châs am fyng-hariad.
6 Gosot tithe vn annuwiol arno ef, a safed Sa∣tan wrth ei ddeheu-law ef.
7 Pan farner ef, eled yn euoc, a bydded ei weddi yn bechod.
8 Ychydig fyddo ei ddyddiau: a chymmered arall ei escobaeth ef.
9 Bydded ei blant yn ymddifaid: a'i wraig yn weddw.
10 Gan gyrwydro hefyd cyrwydred ei blant ef, a chardottant: ceisiant hefyd eu bara o'u hang-hyfan∣nedd leoedd.
11 Rhwyded y ceisiad yr hyn oll sydd ganddo: ac anrheithied dieithriaid ei lafur ef.
12 Na fydded neb a estynno drugaredd iddo: ac na fydded neb a drugarhâo wrth ei ymddifaid ef.
13 Bydded ei hiliogaeth ef yn ddinistr, delêer ei