eiddo Crist yn ei ddyfodiad ef. Yna y bydd y diwedd, wedi y rhoddo efe y deyrnas i Dduw a'r Tâd, wedi iddo ddeleu pob pendefigaeth, a phob awdurdod, a nerth. Canys rhaid yw iddo deyrnasu, oni ostyngo ei elynion oll tann ei draed. Y gelyn diweddaf a ddi∣nistrir fydd angeu. Canys efe a ddarostyngodd bob dim tan ei draed ef, eithr pan yw yn dywedyd ddar∣fod gostwng pob beth iddo ef, mae yn amlwg, ei fod efe wedi ei ddieithro yr hwn a ddarostyngodd bob peth tano. Ac wedi darostwng pob dim iddo, yna y Mab ei hun hefyd a ddarostyngir i'r hwn a ddarost∣yngodd bob dim tano ef, fel y byddo Duw Oll yn Oll. Os amgen, beth a wna y rhai a fedyddir tros y meirw, os y meirw ni chyfodir? a pha ham y bedyddir hwy tros y meirw, a pha ham i'n peryglir bob awr? Yr wyfi yn marw beunydd, gan eich gorfoledd yr hon sydd gennif yng-Hrist Iesu ein Harglwydd-Os yn ol dull dŷn yr ymleddais ag anifeiliaid yn Ephesus, pa leshâd sydd i mi oni chyfodir y meirw? bwytawn ac yfwn, canys yforu ni a fyddwn feirw: Na thwyller chwi, ymadroddion drwg a lygrant foesau da. De∣ffroiwch yn gyfiawn, ac na phechwch, canys y mae rhai ni adwaenant Dduw: er cywilydd iwch y dy∣wedaf hyn. Eithr rhyw vn a ddywed, pa fodd y cyfo∣dir y meirw? â pha ryw gorph y deuant? O ynfyd y peth yr wyt ti yn ei hau, ni fywheuir oni bydd efe marw. A'r peth yr wyt ti yn ei hau, nid wyt ti yn hau y corph a fydd, eithr gronyn noeth, fel y digwy∣ddo, o wenith, neu o ryw rawn eraill. Eithr Duw a ryddiddo gorph, fel y bu dda ganddo ef, ac i bob hedyn ei gorph ei hun. Nid yw pob cnawd vn rhyw gnawd, eithr vn cnawd sydd i ddynion, a chnawd arall i anifeiliaid, ac arall i byscod, ac arall i adar. Y mae hefyd gyrph nefol, a chyrph daiarol, ond arall yw gogoniant y rhai nefol, ac arall y rhai daiarol. Arall yw gogoniant yr haul, ac arall yw gogoniant