Page [unnumbered]
Am y rhai a Fedyddiwyd mewn tai diawdurdod ar amser anghenrhaid.
BId i'r Bugeiliaid Eglwysic, a'r Cu∣radiaid rybuddio yn fynych y bobl, nad oedant fedydd y plant bellach nâ'r Sûl, neu yr dydd gwyl nesaf yn ol geni y plentyn; oddi eithr am achos mawr a rhe∣symol a yspyser i'r Curat, ac a dderbynio yntef.
Ac hefyd hwynt a'u rhybu∣ddiant, na fedyddiont eu plant gartref yn eu tai, heb achos mawr ac angen: a phan gym∣hello anghenrhaid iddynt wneuthur hynny, yna iddynt ei wneuthur yn y modd hyn.
Yn gyntaf y rhai a fyddont yn y fan, galwant ar Dduw am ei râd, a dywedant weddi yr Arglwydd, os gâd yr am∣ser; Ac yna vn o honynt a henwa yr plentyn, a'i drochi yn y dwfr, neu fwrw dwfr arnaw, gan ddywedyd y gei∣riau hyn.
N. Yr wyfi yn dy fedyddio di yn Enw y Tad, ar Mab, ar Yspryd glan. Amen.
Ac nac amheuant am y dyn-bach a fedyddier felly, nad yw efe wedi ei fedyddio yn ddeddfol, ac yn ddigonol, Ac na ddyleir ei fedyddio mwy yn yr Eglwys. Eithr er hyn∣ny i gyd, os y plentyn yr hwn a fedyddiwyd yn y modd hwn a fydd byw rhag llaw, iawn fydd ei ddwyn ef i'r Egl∣wys, fel y gallo yr Offeiriad holi, a threio a fedyddiwyd y plentyn yn ddeddfol, ai na ddo. Ac os y rhai a ddu∣gant y plentyn i'r Eglwys, a atebant ddarfod ei fedy∣ddio