Llyfer gweddi gyffredin, a gwenidogaeth y sacramentau, ac eraill gynneddfau a ceremoniau yn Eglwys Loegr..

About this Item

Title
Llyfer gweddi gyffredin, a gwenidogaeth y sacramentau, ac eraill gynneddfau a ceremoniau yn Eglwys Loegr..
Author
Church of England.
Publication
Printiedig yn Llundain:: gan Ddeputiaid Christopher Barker Printiwr i ardderchoccaf Fawrhydi y Frenhines.,
1599.
Rights/Permissions

To the extent possible under law, the Text Creation Partnership has waived all copyright and related or neighboring rights to this keyboarded and encoded edition of the work described above, according to the terms of the CC0 1.0 Public Domain Dedication (http://creativecommons.org/publicdomain/zero/1.0/). This waiver does not extend to any page images or other supplementary files associated with this work, which may be protected by copyright or other license restrictions. Please go to http://www.textcreationpartnership.org/ for more information.

Subject terms
Church of England -- Liturgy -- Texts.
Prayer-Books -- Early works to 1800.
Psalters -- Early works to 1800.
Link to this Item
http://name.umdl.umich.edu/A97363.0001.001
Cite this Item
"Llyfer gweddi gyffredin, a gwenidogaeth y sacramentau, ac eraill gynneddfau a ceremoniau yn Eglwys Loegr.." In the digital collection Early English Books Online 2. https://name.umdl.umich.edu/A97363.0001.001. University of Michigan Library Digital Collections. Accessed June 10, 2024.

Pages

Bedydd Public.

Pan fyddo plant iw bedyddio ar ddydd Sul, neu ddydd gwyl arall, fe a ddyle eu tadau roddi rhybudd tros nos, neu

Page [unnumbered]

y bo rau cyn dechreu y foreuol weddi, i'r Curat. Yna by∣ddet y tadau bedydd, a'r mammau bedydd a'r bobl yn ba∣rod wrth y Bedyddfan: y naill ai yn y man ar ôl y llîth ddiwethaf o'r foreuol weddi, neu ynte yn y man yn ôl y llith ddiwethaf ar y Brydnhawnol weddi, megis y go∣soto y Curat yn ôl ei ystyriaeth ei hun. Ac yn sefyll y∣no gofynned yr Offeiriad, a fedyddiwyd y plant, a'i na fedyddiwyd? os attebant, Na ddo: yna dyweded yr Offeiriad fel hyn.

FYng-haredigion, yn gymmaint ac ym∣ddwyn a geni pob dyn mewn pechod, a bod ein I achawdur Crist yn dywedyd, na ddichon neb gael myned i mewn i deyrnas Duw, oddieithr ei ail-eni ef o ddwfr a'r Yspryd glân: Atolwg ydd wyf i chwi alw ar Dduw Tâd, trwy ein Harglwydd Iesu Grist, hyd oni fo iddo o'i ddaionus drugaredd ganiatâu i'r plant hyn (y peth drwy nerth natur ni allant ddy∣fod iddo) gael eu bedyddio â dwfr, ac â'r Yspryd glân, a'u derbyn i lân Eglwys Grist, a bod yn aelodau bywiol o'r vn-rhyw.

Yna y dywed yr Offeiriad.

Gweddiwn.

HOll-alluog a thragywyddol Dduw, yr hwn o'th fawr drugaredd a gedwaist Noe a'i deulu yn yr Arch rhag eu cyfr∣golli gan ddwfr; a hefyd a dywysaist yn ddiangol blant yr Israel dy bobl drwy yr môr côch, gan arwyddocau wrth hynny dy lân fedydd, a thrwy fedydd dy garedic Fâb Iesu Grist a sanctaiddiaist afon Iorddonen, a phob dwfr arall, er dirgel olchedigaeth pechodau:

Page [unnumbered]

Atolygwn i ti er dy aneirif drugareddau, edrych o honot yn drugarog ar y plant hyn, eu sancteiddio hwy, a'u glanhau â'r Yspryd glân, fel y byddo iddynt hwy yn waredawg oddi wrth dy lid, gaffael eu der∣byn i Arch Eglwys Grist, a chan fod yn gedyrn mewn ffydd, yn llawenion gan obaith, ac wedi ym∣wreiddio yng-hariad perffaith, allu o honynt ford∣wyo tros donnau y byd trallodus hwn, ac o'r di∣wedd, allu dyfod i dir y bywyd tragywyddawl, yno i deyrnasu gyd â thi heb drangc na gorphen, trwy Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.

HOll-alluog ac anfarwol Dduw, porth pob anghenog, nawdd-wr pawb a gilio attat am gynhorthwy, bywyd y rhai a gredant, a chyfodiad y meirw: ydd ŷm yn galw arnat tros y rhai bychain hyn, ar iddynt hwy yn dyfod i'th lân fedydd, gael der∣byn maddeuaint o'u pechodau drwy adenedigaeth ysprydol. Derbyn hwy Arglwydd megis yr addewa∣ist trwy dy garedic Fâb, gan ddywedyd; Gofynnwch, a rhoddir i chwi, Ceisiwch a chwi a gewch, Curwch ac fe agorir i chwi. Felly yn-awr dyro i ni, a ni yn gofyn, par i ni gael, a ni yn ceisio; agor y porth i ni y sy yn curo; fel y gallo y rhai bychain hyn fwynhau tragywyddol fendith dy nefol olchiad, a dyfod i'r deyrnas dragywyddawl yr hon a addewaist trwy Grist ein Harglwydd. Amen.

Yna y dywed yr Offeiriad, Gwrandewch ar eiriau yr E∣fangel a scrifennodd Sanct Marc yn y ddecfed bennod.

* 1.1YR amser hynny y dugasant blant by∣chain at Grist, fel y cyffyrdde efe â hwynt: a'r discyblion a geryddent y rhai a'u du∣gase hwynt; A'r Iesu pan welodd hynny

Page [unnumbered]

fu anfodlon, ac a ddywedodd wrthynt: gedwch i'r plant bychain ddyfod attafi, ac na waherddwch hwynt: canys i'r cyfryw y perthyn teyrnas Dduw. Yn wîr y dywedaf wrthych, pwy bynnac ni dder∣bynnio deyrnas Dduw fel plentyn nid aiff i mewn iddi. Ac efe a'u cofleidiodd hwynt, ac a ddodes ei ddw∣ylaw arnynt, ac a'u bendithiodd.

Yn ôl darllen yr Efangel, y traetha y Gwenidog y cy∣ngor byr hwn-yma ar eiriau yr Efangel.

Y Caredigion, chwi a glywch yn yr E∣fangel hon eiriau ein Iachawdur Crist, yn gorchymyn dwyn plant atto, pa wedd y ceryddodd efe y rhai a fynna∣sent eu cadw oddi-wrtho; pa wedd y cynghora efe i bob dyn ganlyn eu gwiriondeb hwy. Yr ydych chwi yn deall wrth ei agwedd ef a'i wei∣thred modd y dangoses ei ewyllys da iddynt: Canys efe a'u cofleidiodd hwy yn ei freichiau, efe a roddodd ei ddwylaw arnynt, ac a'u bendithiodd hwynt. Nac amheuwch gan hynny, eithr credwch yn ddif∣rif, y cymmer efe yr vn ffunyd yn ymgeleddgar y rhai bychain hyn-yma, y cofleidia efe hwy â brei∣chiau ei drugaredd, y dyru iddynt fendith y bywyd tragywyddawl, ac y gwna hwy yn gyfrannogion o'i ddidranc deyrnas. O herwydd pa ham (gan ein bod ni yn credu fel hyn am ewyllys da ein Tâd ne∣fol tu ag at y rhai bychain hyn, wedi ei amlygu trwy ei Fâb Iesu Grist, ac heb ddim ammau ei fod efe yn caniatau yn ewyllyscar ein gweithred gar∣dodawl hon yn dwyn y plant hyn i'w sanctaidd Fe∣dydd ef) diolchwn yn ffyddlon, ac yn ddefosionol iddo, gan ddywedyd.

Page [unnumbered]

HOll-alluog a thragwyddol Dduw, Nefol Dâd, ydd ŷm yn ostyngedic yn diolch i ti fod yn wiw gennit ein galw i wybodaeth dy râd, a ffydd ynot: Ychwanega yr wybodaeth hon, a chadarnhâ y ffydd hon ynom yn wastad; dyro dy Yspryd glân i'r rhai bychain hyn, fel y ganer hwy eilwaith, a'u gw∣neuthur yn etifeddion Iechyd tragywyddol, trwy ein Harglwydd Iesu Grist, yr hwn sydd yn byw, ac yn teyrnasu gyd â thi, a'r Yspryd glân yr awr hon ac yn dragywydd. Amen.

Yna dywedet yr Offeiriad wrth y Tadau-bedydd ar Mammau-bedydd yn y modd hyn.

Y Caredigion bobl, chwi a ddugasoch y plant hyn yma iw bedyddio, chwi a weddiasoch ar fod yn wiw gan ein Harglwydd Iesu Grist eu derbyn hwy, rhoddi ei ddwylo arnynt, eu bendithio, ma∣ddeu eu pechodau, rhoddi iddynt deyrnas nefoedd a bywyd tragywyddol. Chwi a glywsoch hefyd ddar∣fod i'n Harglwydd Iesu Grist addo yn ei Efangel ganhiadu yr holl bethau hyn a weddiasoch chwi am danynt: yr hwn addewid efe o'i ran ef a'i ceidw yn wîr ddiogel, ac a'i cwplâ. Herwydd pa achos yn ôl yr addewid hyn a wnaeth Crist, rhaid yw i'r rhai bychain hyn yn ffyddlon, ar eu rhan hwythau addo trwyoch-chwi y sy yn feichiau drostynt, ym∣wrthod â diafol, a'i holl weithredoedd, ac yn wa∣stad credu gwynfydedic air Duw, ac yn vfydd ca∣dw ei orchymynnion.

Yna yr ymofyn yr Offeiriad â'r Tadau-bedydd, a'r Mammau-bedydd yr ymofynion hyn isod.

A Ydwyt ti yn ymwrthod â diafol, ac â'i holl wei∣thredoedd, coeg rodres, a gwag-orfoledd y byd, a'i

Page [unnumbered]

holl chwantau cybyddus, anysprydol ewyllys y cna∣wd, fel na ddilynech, ac n'ath dywyser ganddynt?

Ateb.

Yr ydwyf yn ymwrthod â hwynt oll.

Gwenidawc.

A wyt ti yn credu yn Nuw Tâd holl-gyfoethog, Creawdr nef a daiar? Ac yn Iesu Grist ei vn Mab ef ein Harglwydd? A'i genhedlu o'r Yspryd glân? A'i eni o Fair forwyn? iddo ddioddef dan Pon∣tius Pilatus, ei groes-hoelio, ei farw a'i gladdu? des∣cyn o honaw i vffern, a'i gyfodi y trydydd dŷdd, ac ascyn i'r nefoedd, a'i fod yn eistedd ar ddeheu-law Dduw Tâd holl-alluog, ac oddi yno y daw efe yn ni∣wedd y bŷd i farnu byw a meirw? A wyti yn credu yn yr Yspryd glân, yr Eglwys lân Gatholic, Cym∣mun y sainct, maddeuaint pechodau, adgyfodiad y cnawd, a bywyd tragywyddol gwedi angeu?

Ateb.

Hyn oll ydd wyf yn ei gredu yn ddilys.

Gwenidog.

A fynni di dy fedyddio yn y ffŷdd hon?

Ateb.

Hynny yw fy ewyllys.

Yna y dywed yr Offeiriad.

O Drugarog Dduw, caniatâ felly gla∣ddu yr hên Adda yn y plant hyn, fel y cyfoter y dyn newydd ynddynt hwy. Amen.

Caniatâ fod i'r holl chwantau cna∣wdol farw ynddynt, ac i bob peth a berthyn i'r Yspryd allu byw a chynyddu ynddynt. Amen.

Caniatâ fod iddynt nerth a gallu i gael yr oruch∣afiaeth, a gorfod yn erbyn diafol, y byd, a'r cnawd. Amen.

Page [unnumbered]

Caniatâ fod i bwy bynnac y sydd yma wedi ei gy∣ssegru iti trwy ein swydd a'n gweinidogaeth ni, a∣llu hefyd bod yn gynyscaeddol o rin weddau nefol, a bod iddynt eu tragywyddol obrwyau drwy dy druga∣redd, ô fendigedic Arglwydd Dduw, yr hwn wyt yn byw, ac yn llywiaw pob peth, yn oes oesoedd. Amen.

Holl-gyfoethog Fyth-fywiol Dduw, yr hwn y bu i'th garedicaf Fâb Iesu Grist dros faddeuant o'n pechodau oddef gollwng o'i werth-fawr ystlys ddw∣fr a gwaed, a rhoddi gorchymyn iw ddiscyblion fy∣ned a dyscu pob cenedl, a'u bedyddio yn Enw y Tâd, a'r Mâb, a'r Yspryd glân: Ystyria atolwg i ti wrth weddiau dy gynnulleidfa, a chaniata bod i bawb o'th weision a fedyddier yn y dwfr hwn, dderbyn cy∣flawnder dy rad, ac aros byth yn nifer dy ffyddlon blant etholedig, trwy Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.

Yna y cymmer yr Offeiriad y dyn bychan yn ei ddwy∣law, ac y gofyn yr enw. A chan enwi y plentyn efe a'i tro∣cha ef yn y dwfr, a hynny yn ddiesceulus, ac yn ddarbodus, gan ddywedyd.

N. Yr ydwyfi yn dy fedyddio di yn E∣nw'r Tad a'r Mab, a'r Yspryd glan. Amen.

Ac o bydd y dyn bychan yn wan, digon fydd bwrw dw∣fr arnaw, gan ddywedyd y geiriau dywededic vcho.

N. Yr ydwyfi yn dy fedyddio di yn E∣nw 'r Tad, a'r Mab, a'r Yspryd glan. Amen.

Yna gwneled yr Offeiriad groes yn-nhalcen y dyn bach, gan ddydwedyd.

Page [unnumbered]

YR ydym ni yn derbyn y plentyn hwn i gynnu∣lleidfa defeid Crist, ac yn ei nodi ef ag arwydd y grôg, yn arwyddocâd na bo iddo rhag-llaw gymme∣ryd yn gywilydd gyffessu ffydd Crist groes-hoeliedig, ac iddo ymladd yn wrol tan ei faner ef, yn erbyn pechod, y byd, a'r cythrael, a pharhau yn filwr ffydd∣lawn ac yn wâs i Grist holl ddyddiau ei enioes. A∣men.

Yna y dywed yr Offeiriad.

CAn ddarfod yn awr, garedigion frodyr, ad-êni, a dodi y plant hyn yng-horph cynnulleidfa Crist, diolchwn ninnau i Dduw am ei ddaioni hyn, ac o gyd-vndab gwnawn ein gweddiau ar y Goruchaf Dduw, ar fod iddynt hwy ddiweddu y rhan arall o'u bywyd yn ôl hyn o ddechreuad.

Yna y dywedir.

Ein Tâd yr hwn wyt yn y nefoedd, &c.

Yna y dywed yr Offeiriad.

MAwr ddiolchwn i ti drugarocaf Dâd, ryngu bodd it' ad-eni y plentyn hwn â'th Yspryd glân, a'i dderbyn yn blen∣tyn dewisol i ti dy hun, a'i gorphori i'th gynnulleidfa sanctaidd: Ac yn o∣styngedic yr attolygwn i ti ganiatâu, gan ei fod efe yn farw o ran pechod, ac yn byw tu a chyfiawn∣der, ac yn gladdedic gyd â Christ yn ei angeu, allu croes-hoelio yr hên ddyn, ac yn hollawl ymwrthod ag oll gorph pechod, a megis y mae efe wedi ei wneu∣thur yn gyfrannog o angeu dy Fâb, iddo fod yn gy∣frannog o'i gyfodiad, ac felly o'r diwedd, yng-hŷd â'r rhan arall 'oth sanctaidd gynnulleidfa, bod o ho∣naw yn etifedd dy deyrnas dragywyddol, drwy Ie∣su Grist ein Harglwydd. Amen.

Page [unnumbered]

Ac yn y pen diwethaf, yr Offeiriad, gan alw y Tadau-be∣dydd, a'r Mammau-bedydd yng-hyd a ddywed hyn o fyr athrawiaeth yma iso.

YN gymmaint a darfod i'r plant hyn addo trwochwi, ym wrthod â diafol, a'i holl weithredoedd, credu yn-Nuw, a'i wasanaethu ef: Rhaid yw i chwi feddwl, mai eich rhan a'ch dylêd yw, gweled dyscu o'r plant hyn, cyn gynted ag y gallont ddyscu, pa ryw hynod adduned, addewid, a phroffes a wnaethant drwy∣och-chwi. Ac er mwyn gallu o honynt wybod hyn yn well, chwi a elwch arnynt i wrando pregethau. Ac yn bendifadde rhaid yw i chwi weled dyscu o honynt y Gredyniaeth, Gweddi yr Arglwydd, a'r dec gorchymyn yn yr iaith a ddeallont, a phob peth arall a ddylei Cristion ei wybod, a'i gredu er iechyd iw enaid, a bod meithrin y plant hyn yn rhinwe∣ddol, iw hyweddu mewn buchedd dduwiol a Chri∣stionogawl, gan goffa yn wastad, bod Bedydd yn ar∣wyddocau i nyni ein profess, nid amgen, canlyn o honom esampl ein Iachawdur Crist, a'n gwneu∣thur yn gyffelyb iddo ef: Ac fel y bu efe farw, ac y cy∣fodes drachefn drosom, felly y dylem ni y rhai a fe∣dyddiwyd, farw oddi wrth bechod a chyfodi i gyfi∣awnder, gan farwolaethu yn wastad ein holl ddry∣gioni, a'n gwyniau llygredic, a pheunydd myned rhagom ym-mhôb rhinwedd dda, a buchedd ddu∣wiol

Y Gwenidog a orchymyn ddwyn y plant at yr Escob i'w conffirmo ganddo, cyn gynted ac y medront ddywe∣dyd yn eu tafod-iaith gyffredin byngciau y ffydd, Gweddi yr Arglwydd, a'r deng-air Deddf, a bod hefyd wedi eu haddyscu yn y Catechism a osodwyd ar fedr hynny, yn berthynasol megis y mae yn eglur yno.

Notes

Do you have questions about this content? Need to report a problem? Please contact us.