Caniatâ fod i bwy bynnac y sydd yma wedi ei gy∣ssegru iti trwy ein swydd a'n gweinidogaeth ni, a∣llu hefyd bod yn gynyscaeddol o rin weddau nefol, a bod iddynt eu tragywyddol obrwyau drwy dy druga∣redd, ô fendigedic Arglwydd Dduw, yr hwn wyt yn byw, ac yn llywiaw pob peth, yn oes oesoedd. Amen.
Holl-gyfoethog Fyth-fywiol Dduw, yr hwn y bu i'th garedicaf Fâb Iesu Grist dros faddeuant o'n pechodau oddef gollwng o'i werth-fawr ystlys ddw∣fr a gwaed, a rhoddi gorchymyn iw ddiscyblion fy∣ned a dyscu pob cenedl, a'u bedyddio yn Enw y Tâd, a'r Mâb, a'r Yspryd glân: Ystyria atolwg i ti wrth weddiau dy gynnulleidfa, a chaniata bod i bawb o'th weision a fedyddier yn y dwfr hwn, dderbyn cy∣flawnder dy rad, ac aros byth yn nifer dy ffyddlon blant etholedig, trwy Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.
Yna y cymmer yr Offeiriad y dyn bychan yn ei ddwy∣law, ac y gofyn yr enw. A chan enwi y plentyn efe a'i tro∣cha ef yn y dwfr, a hynny yn ddiesceulus, ac yn ddarbodus, gan ddywedyd.
N. Yr ydwyfi yn dy fedyddio di yn E∣nw'r Tad a'r Mab, a'r Yspryd glan. Amen.
Ac o bydd y dyn bychan yn wan, digon fydd bwrw dw∣fr arnaw, gan ddywedyd y geiriau dywededic vcho.
N. Yr ydwyfi yn dy fedyddio di yn E∣nw 'r Tad, a'r Mab, a'r Yspryd glan. Amen.
Yna gwneled yr Offeiriad groes yn-nhalcen y dyn bach, gan ddydwedyd.