Y drefn am wenidogaeth Swpper yr Arglwydd, neu yr Cymmun bendigaid.
CYnnifer a fyddo yn amcânu bod yn gyfrannogion o'r Cymmun ben∣digedic, a arwyddocânt eu hen∣wau i'r Curat nosweith o'r blaen, neu yr boreu cyn dechreu y weddi foreuol, ai yn y fan gwedi.
Ac o bydd vn o'r rhai hynny yn ddrwgfucheddol cyhoedd, fel y byddo gwrthwynebus gan y gynnulleidfa: neu a wnaeth gam iw gymmydog ar air, neu ar weithred: Y Curat gan gael gwybyddiaeth o hynny, a'i geilw ef, ac a'i cynghôra na ryfygo efe er dim ddyfod i ford yr Arglwydd, hyd oni ddeclario efe yn gyhoeddus ei fod yn wîr edifeiriol, a dar∣fod iddo wellhau ei ddrwgfuchedd o'r blaen; fel y bodlo∣ner y gynnulleidfa wrth hynny; yr hon a rwystrysid yn y blaen: A darfod iddo wneuthur iawn i'r neb y gwnaetho∣edd gamwedd o'r blaen: Neu o'r lleiaf, dadcan ei fod mewn cyflawn fryd i wneuthur felly yn gyntaf ac y gallo yn gymhedrol.
Y drefn hon a arfer y Curat am y sawl y gwypo efe fod malis a chasineb yn teyrnasu rhyngddynt; ni ddioddef