Page [unnumbered]
Rhag-ymadroddion priawd.
Ar ddydd Natalic Christ, a saith niwrnod gwedi
AM i ti roddi Iesu Grist dy vn Mâb iw eni ar gyfenw i heddyw drosom ni: yr hwn trwy wei∣thred yr Yspryd glân a wnaethpwyd yn wîr ddyn, o hanfod y forwyn Fair ei fam, a hynny heb ddim pechod i'n gwneuthur yn lân oddiwrth bob pechod. Gan hynny gyd ag Angelion, ac Archangelion, &c.
Ar ddydd Pasc a saith ddiwrnod gwedi.
ONd yn bendifaddeu, ydd ŷm yn rhwymedic i'th foliannu, dros anrhydeddus gyfodiad dy Fab Iesu Grist ein Harglwydd: canys efe yw'r gwîr oen Pasc yr hwn a offrymwyd drosom, ac a ddilêawdd bechod y byd, yr hwn trwy ei angeu ei hun a ddi∣nistriodd angeu, a thrwy ei adgyfodiad i fywyd a adferodd i ni fywyd tragywyddol: Can hynny gŷd ag Angelion, &c.
Ar dydd Dyrchafael a saith ddydd gwedi.
TRwy dy annwylaf Fab Iesu Grist ein Har∣glwydd, yr hwn yn ôl ei anrhydeddus gyfodiad, a ymddangosodd yn gyhoeddus iw holl ddiscyblion, ac yn eu golwg, efe a ascynnod i'r nefoedd i baratoi lle i ni, bod i ni lle y mae efe ascynnu hefyd, a theyr∣nasu gyd ag ef mewn gogoniant: Can hynny gyd ag Angelion, &c.
Ar ddydd Sûl-gwyn, a chwe diwrnord yn ôl.
TRwy Iesu Grist ein Harglwydd, ac yn ôl ei gywi∣raf addewid y descynuodd yr Yspryd glân heddyw o'r nef, a disymwth sŵn mawr megis gwynt nerthoc,