Page [unnumbered]
Yr Efengyl.
* 1.1IEsu a ddywedodd wrth Petr, canlyn fi. Yna troes Petr, a Gwelodd y discybl yr oedd yr Iesu yn ei garu, yn canlyn, yr hwn hefyd a bwysase ar ei ddwyfron ef ar swpper, ac a ddywedase, Arglwydd, pwy yw'r hwn a'th fradycha di? Gan hynny pan welodd Petr hwn, ef a ddywe∣dodd wrth yr Iesu, Arglwydd, beth am hwn? Yr Iesu a ddywedodd wrtho, os ewyllysiaf iddo arhos oni ddelwyf, beth yw hynny i ti? Canlyn di fy-fi. Yna'r aeth y gair hwn ym-mhlith y brodyr, na fydde y discybl hwnnw farw: eithr ni ddywedase 'r Iesu wrtho, Ni bŷdd efe farw; ond, Os ewyllysiaf iddo arhos hyd oni ddelwyf, beth yw hynny i ti? Dymma'r discybl hwnnw, yr hwn sydd yn tystiola∣ethu am y pethau hyn, ac a scrifennodd y pethau hyn, ac ni a wyddom fod ei dystiolaeth ef yn wir. Ac y mae hefyd lawer o bethau eraill a wnaeth yr Iesu, y rhai pe scrifennid eb-ado-vn, nid wyf yn tybieid y cynhwyse y bŷd y llyfrau a scrifennid.