Yr Efengyl.
* 1.1YR Iesu a aeth drachefn ymmaith o gy∣ffiniau Tyrus a Sidon, ac a ddaeth hyd fôr Galilea trwy ganol cyffiniau Decapolis. A hwynt a ddugasant atto vn byddar ac attal dywedyd arno, ac a attolygasant iddo ddodi ei law arno ef. Ac wedi iddo ei gymmeryd ef o'r nailltu allan o'r dyrfa, efe a estynnodd ei fysedd yn ei glustiau ef, ac wedi iddo bo∣eri efe a gyffyrddodd â'i dafod ef: a chan edrych i fynu tu a'r nef, ef a ocheneidiodd, ac a ddywedodd wrtho, Ephphatha, sef ymagor. Ac yn ebrwydd ymagorodd ei glustiau ef, ac ymollyngodd rhwym ei dafod ef, ac efe a lefarodd yn eglur. Ac ef a waharddodd iddynt ddywedyd i neb. Ond pa mwyaf y gwaharddodd ef iddynt, mwy o lawer y cyhoeddasant. A rhyfeddu a wnaethant yn ddirfawr, gan ddywedyd, da y gwna∣eth efe bob peth: y mae efe yn gwneuthur i'r by∣ddair glywed, ac i'r mudion ddywedyd.