Yr Efengyl.
* 1.1YR oedd rhyw ddŷn goludog, ac ef a wiscid â phorphor, a lliain-main, ac oedd yn cymmeryd ei fŷd yn ddainteithol, ac yn fwythus beu∣nydd. Yr oedd hefyd ryw gardot∣dyn a'i enw Lazarus, yr hwn a fwrid wrth ei borth ef yn gorn∣wydlyd, ac yn chwennychu cael ei borthi â'r briwsion, y rhai a syrthie o ddiar fwrdd y goludog: ond y cŵn a ddaethant ac a lyfasant ei gornwydydd ef. A bu i'r cardotdyn farw, ac ef a dducpwyd gan yr Angelion i fynwes Abraham: a'r goludog a fu farw hefyd, ac a gladdwyd. Ac efe yn bôd yn vffern mewn poenau, wrth godi ei olwg a ganfu Abraham o hir-bell, a Lazarus yn ei fynwes. Ac efe a lefodd, ac a ddywedodd, ô Dâd Abraham, trugarha wrthif a danfon Lazarus i drochi pen ei fys mewn dwfr, ac i oeri fy-nhafod: canys fe a 'm poenir yn y fflam hon. Ac Abraham a ddywedodd, ha fâb, coffa i ti dderbyn dy wynfyd yn dy fywyd, ac felly Lazarus ei adfyd: ac yn awr diddenir ef, a phoe∣nir dithe. Ac heb law hyn oll, siccrhawyd gagen∣dorr fawr rhyngom ni a chwi, fel na allo y rhai a fynnent dram wy oddi ymma attoch chwi, ac nad yw y rhai a fynnent ddyfod oddi yna yn tram wy at∣tom ni. Yntef a ddywedodd, yr wyf yn attolwg i ti, dâd, ddanfon o honot ef i dŷ fy-nhâd: canys y mae i mi bump o frodyr; fel y tystiolaetho iddynt hwy, rhag dyfod o honynt hwythau i'r lle poenus hwn. Abraham a ddywedodd wrtho, y mae ganddynt Mo∣ses,