Page [unnumbered]
Yr Efengyl.
* 1.1 YN wir, yn wir, meddaf i chwi, yr hwn nid yw yn myned i mewn drw∣y 'r drŵs i gorlan y defaid, eithr sydd yn dringo ffordd arall, lleidr, ac yspei∣ludd yw efe. Ond yr hwn sydd yn my∣ned i mewn drwy'r drŵs yw bugail y defaid. I hwn y mae 'r dryssor yn agoryd, ac y mae 'r defaid yn gwrando ar ei lais ef, ac y mae ef yn galw ei ddefaid ei hun erbyn eu henw, ac yn eu harwain hwy allan. Ac wedi iddo yrru allan ei ddefaid ei hun, y mae efe yn myned o'u blaen hwynt, a'r defaid a'i canlynant ef, am eu bôd yn adnabod ei lais ef. A dŷn dieithr ni's canlynant, eithr ciliant oddiwrtho, am nad adwaenant lais dieithriaid. Y ddammeg hon a ddywedodd yr Iesu wrthynt, ond hwy ni ŵybuant pa bethau oedd y rhai a ddywedase efe wrthynt. Yna y dywedodd yr Iesu wrthynt drachefn, yn wir, yn wir, meddaf i chwi, my-fi yw drŵs y defaid. Cynni∣fer oll ac a ddaethant o'm blaen i, lladron ac yspeil∣ŵyr ŷnt: eithr ni wrandawodd y defaid arnynt. My∣fi yw'r drŵs: os aiff neb i mewn drwof fi, ef a fydd cadwedig, ac ef a aiff i mewn, ac a aiff allan, ac a gaiff borfa. Nid yw'r lleidr yn dyfod ond i ladratta, ac i lâdd, ac i ddistrywio: my-fi a ddaethym er mwyn cael o honynt fywyd, a'i gael o honynt yn helaethach.