Yr Efengyl.
* 1.1 WEle, dau o honynt oeddynt yn myned y dydd hwnnw i dref a'i henw Em∣maus, yr hon oedd dri-ugain stâd oddi∣wrth Ierusalem. Ac yr oeddynt hwy yn ymddiddan â'i gilydd am yr holl be∣thau hyn a ddigwyddasent. A bu fel yr oeddynt yn
To the extent possible under law, the Text Creation Partnership has waived all copyright and related or neighboring rights to this keyboarded and encoded edition of the work described above, according to the terms of the CC0 1.0 Public Domain Dedication (http://creativecommons.org/publicdomain/zero/1.0/). This waiver does not extend to any page images or other supplementary files associated with this work, which may be protected by copyright or other license restrictions. Please go to http://www.textcreationpartnership.org/ for more information.
* 1.1 WEle, dau o honynt oeddynt yn myned y dydd hwnnw i dref a'i henw Em∣maus, yr hon oedd dri-ugain stâd oddi∣wrth Ierusalem. Ac yr oeddynt hwy yn ymddiddan â'i gilydd am yr holl be∣thau hyn a ddigwyddasent. A bu fel yr oeddynt yn
ymddiddan, ac yn ymofyn a'i gilydd, yr Iesu yntef a nessaodd, ac aeth gŷd â hwynt. Eithr eu llygaid hwynt a attaliwyd fel na's adwaenent ef. Ac ef a ddywedodd wrthynt, pa ryw ymadroddion yw y rhai hyn sydd gennwch wrth ei gilydd dan rodio? a phaham yr ydych yn drîst? A'r naill, yr hwn yr oedd ei enw Cleopas a attebodd, ac a ddywe∣dodd wrtho, a ydwyt ti yn vnig yn ymdeithudd yn Ierusalem, ac ni ŵyddost y pethau a ddarfu yn y dyddiau hyn ynddi hi? Ac ef a ddywedodd wrth∣ynt, pa bethau? hwythau a ddywedasant wrtho: yr hyn a wnaethpwyd i'r Iesu o Nazareth, yr hwn oedd ŵr a oedd brophwyd galluog mewn gweith∣red, a gair, gar bron Duw a'r holl bobl. A'r modd y traddodes yr arch-offeiriaid, a'n llywodraeth-wŷr ni ef i'w gondemno i angeu, ac a'i croes-hoeliasant ef. Ond yr oeddym ni yn gobeithio mai efe oedd yr hwn a warede 'r Israel: ac heb law hyn oll heddyw yw 'r trydydd dŷdd er pan wnaethpwyd y pethau hyn. A hefyd rhai gwragedd o'n plith ni a'n dychrynasant ni, y rhai a ddaethant yn foreu at y bedd. A phan na chawsant ei gorph ef, hwynt∣hwy a ddaethant, gan ddywedyd weled o honynt weledigaeth o angelion, y rhai a ddywedant ei fôd ef yn fyw. A rhai o'r rhai oedd gŷd â ny-ni a aethant at y bêdd, ac a gawsant felly fel y dywedase 'r gwra∣gedd, ond ni welsant ef. Yntef a ddywedodd wrth∣ynt, ô ynfydion, a hwyr-frydig o galon i gredu 'r holl bethau a ddywedodd y prophwydi. Ond oedd raid i Grist ddyoddef y pethau hyn a myned i'w ogoniant? A chan ddechreu ar Moses, a'r holl bro∣phwydi ef a agorodd iddynt yn yr holl scrythyrau y pethau oeddynt scrifennedig am dano ef. Ac yr oe∣ddynt yn nessau i'r drêf i'r hon ydd oeddynt yn my∣ned: ac yntef a gymmerth arno ei fôd yn myned
ym-mhellach. Ac hwy a'i cymmhellasant ef, gan ddy∣wedyd, arhos gŷd â ni, canys y mae hi yn hwyrhau, a'r dŷdd sydd yn darfod. Ac efe a aeth i mewn i ar∣hos gŷd â hwynt. A darfu, ac efe yn eistedd i fwy∣ta gŷd ag hwynt ef a gymmerth fara ac a'i bendi∣godd, ac a'i torres, ac a'i rhoddes iddynt. Yna 'r egorwyd eu llygaid hwynt, ac hwy a'i hadnabuant ef: ac ef a ddifannodd allan o'u golwg hwynt. A hwy a ddywedasant wrth ei gilydd, onid oedd ein calonnau ni yn llosci ynom tra ydoedd efe yn ym∣ddiddan â ny-ni ar y ffordd? a thra ydoedd efe yn agoryd i ni 'r scrythyrau? A hwy a godasant yn yr awr honno, ac a ddychwelasant i Ierusalem, ac a gawsant yr vn ar ddêg wedi ymgasclu yng∣hŷd, a'r sawl oedd gŷd â hwynt: y rhai oeddynt yn dywedyd, yr Arglwydd a gyfododd yn wîr, ac a ymddangosodd i Simon. Hwythau a fynegasant y pethau a wnaethesid ar y ffordd, a pha fodd yr ad∣nabuant ef wrth dorriad y bara.
Luc. 24.13.