Y pummed Sûl o'r Grawys.
Y Colect.
NI a attolygwn i ti Holl-alluog Dduw, edrych o honot yn drugârog ar dy bobl: ac iddynt trwy dy fawr ddaioni a'th lywodraeth fod byth yn gadwe∣dic enaid a chorph, trwy Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.
Yr Epistol.
* 1.1 CHrist yn dyfod yn Arch-offeiriad y daio∣ni a fyddent rhag llaw trwy dabernacl mwy, a pherffeithiach, nid o waith dwylo, hynny yw, nid o'r adeiladaeth ymma, nid chwaith trwy waed geifr a lloi, eithr trwy ei waed ei hun yr aeth efe vnwaith i mewn i'r cyssegr, ac a gafas dragywyddol ollyng∣dod o gaethiwed. Oblegid os ydyw gwaed teirw, a geifr, a lludw anner wedi ei danu ar y rhai haloge∣dig yn sancteiddio i bureiddiad y cnawd, o ba faint mwy y pura gwaed Christ (yr hwn trwy 'r Yspryd tragywyddol a'i hoffrymmodd ei hun yn ddifai i Dduw) eich cydwybod chwi oddiwrth feirwon wei∣thredoedd, i wasanaethu y Duw byw? Ac am hynny