Y Pedwerydd Sûl o'r Grawys.
Y Colect.
CAniadhâ ni a attolygwn i ti Holl-alluog Dduw, fod i ni y rhai a boenir yn rhyglyddus am ein drwg weithredoedd, trwy gonffordd dy rad ti, allu yn drugarog gael hawshâd, trwy ein Harglwydd Iesu Grist. Amen.
Yr Epistol.
* 1.1 DYwedwch i mi y rhai a fynnwch fôd dan y ddeddf, oni chlywch y ddeddf? Canys y mae yn scrifennedig fôd i A∣braham ddau fâb, vn o'r wasanaeth∣wraig, ac vn o'r wraig rŷdd. Eithr hwn oedd o'r wasanaeth-wraig a aned yn ôl y cnawd, a hwn oedd o'r wraig rŷdd a aned o herwydd yr adde∣wid. Yr hyn bethau a arwyddoccânt beth arall: ca∣nys y rhai hyn ŷnt y ddau destament: vn yn ddiau o fynydd Sina, yn cenhedlu i gaethiwed, yr hon yw Agar, (Canys Agar yw Sina mynydd yn Arabia, ac y mae yn cyfatteb i Ierusalem yr hon sydd yn