Llyfer gweddi gyffredin, a gwenidogaeth y sacramentau, ac eraill gynneddfau a ceremoniau yn Eglwys Loegr..

About this Item

Title
Llyfer gweddi gyffredin, a gwenidogaeth y sacramentau, ac eraill gynneddfau a ceremoniau yn Eglwys Loegr..
Author
Church of England.
Publication
Printiedig yn Llundain:: gan Ddeputiaid Christopher Barker Printiwr i ardderchoccaf Fawrhydi y Frenhines.,
1599.
Rights/Permissions

To the extent possible under law, the Text Creation Partnership has waived all copyright and related or neighboring rights to this keyboarded and encoded edition of the work described above, according to the terms of the CC0 1.0 Public Domain Dedication (http://creativecommons.org/publicdomain/zero/1.0/). This waiver does not extend to any page images or other supplementary files associated with this work, which may be protected by copyright or other license restrictions. Please go to http://www.textcreationpartnership.org/ for more information.

Subject terms
Church of England -- Liturgy -- Texts.
Prayer-Books -- Early works to 1800.
Psalters -- Early works to 1800.
Cite this Item
"Llyfer gweddi gyffredin, a gwenidogaeth y sacramentau, ac eraill gynneddfau a ceremoniau yn Eglwys Loegr.." In the digital collection Early English Books Online 2. https://name.umdl.umich.edu/A97363.0001.001. University of Michigan Library Digital Collections. Accessed May 19, 2024.

Pages

Yr ail Sûl o'r Grawys.

Y Colect.

HOll-alluog Dduw, yr hwn wyt yn gweled nad oes gennym ddim meddiant o'n nerth ein hun∣ain i'n cymmorth ein hunain: cadw di ni oddi-fewn ac oddi-allan, sef enaid a chorph: ac amddeffyn ni rhag pob gwrthwyneb a ddigwyddo i'r corph, a rhag pob drwg feddwl a wnâ niwed na chynnwrf i'r en∣aid, trwy Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.

Page [unnumbered]

Yr Epistol.

YR ydym yn attolwg i chwi frodyr, ac yn deisyf yn yr Arglwydd Iesu, ar i chwi gynnyddu fwy-fwy, megis y derbynia∣soch gennim, pa fodd y dylech rodio, a bodloni Duw. Canys gwyddoch pa orchymmynion a roddasom i chwi trwy 'r Arglwydd Iesu. Canys hyn yw ewyllys Duw, sef eich sanctei∣ddiad chwi, ac ymgynnal o honoch oddiwrth odineb, a gŵybod o bob vn o honoch pa fodd y meddianna ei lestr mewn sancteiddrwydd, ac anrhydedd, nid me∣wn gwŷn trachwant, megis y cenhedloedd, y rhai nid adwaenant Dduw: Na fydde i neb orthrymmu, na thwyllo ei frawd mewn masnach: canys yr Ar∣glwydd sydd ddialudd ym-mhob cyfryw beth, megis y rhag-ddywedasom i chwi, ac y tystiasom. Oblegid ni 's galwodd Duw nyni i aflendid, onid i sanctei∣ddrwydd. Am hynny y neb a escaeluso y pethau hyn, nid dŷn y mae yn ei escaeluso, onid Duw yr hwn a roddes ei Yspryd glân ynom.

Yr Efengyl.

YR Iesu aeth oddi yno, ac a giliodd i due∣ddau Tyrus a Sidon. Ac wele, gwraig o Ganaan a ddaeth o'r cyffiniau hyn∣ny, ac a lefodd, gan ddywedyd wrtho, trugarhâ wrthif, ô Arglwydd fâb Da∣fydd: y mae fy merch yn ddrŵg ei hwyl gan gyth∣raul. Eithr nid attebodd efe iddi vn gair: yna y daeth ei ddiscyblon atto, ac a attolygasant iddo, gan ddy∣wedyd, gollwng hi ymmaith, canys y mae hi yn lle∣fain ar ein hôl. Ac efe a attebodd, ac a ddywedodd, nim danfonwyd onid at ddefaid colledig tŷ 'r Israel. Er hynny hi a ddaeth, ac a'i haddolodd ef, gan ddy∣wedyd, ô Arglwydd cymmorth fi. Ac efe a attebodd, ac a ddywedodd, nid da cymmeryd bara 'r plant, a'i

Page [unnumbered]

fwrw i'r cenawon cŵn. Hithe a ddywedodd, gwîr yw ô Arglwydd, canys y mae 'r cenawon cŵn yn bwytta o'r briwsion sydd yn syrthio oddiar fwrdd ei harglwyddi. Yna 'r attebodd yr Iesu, ac a ddywedodd wrthi, ha wraig mawr yw dy ffydd, bydded i ti fel yr wyt yn ewyllysio: a'i merch a iachawyd yn yr awr honno.

Notes

Do you have questions about this content? Need to report a problem? Please contact us.