Yna y canlyn y Credo, a gweddieu eraill, megis yr ap∣poyntiwyd ym-laen ar y foreu-weddi, ar ôl Benedictus. Ac â thri Cholect. Yn gyntaf o'r dydd; yr ail, o dangneddyf. Y trydydd am gynhorthwy yn erbyn pob pericl, fel y can∣lyn yma rhac llaw. A dau or Colectau diwethaf a ddy∣wedir bob dydd ar bryd-nhawn weddi heb gyfnewid.
DVw oddi wrth ba vn y daw pob adduned sanc∣taidd, pob cyngor da, a phob gweithred gyfiawn, dyro i'th wasanaeth-ddynion y rhyw dangneddyf a'r na ddichon y bŷd ei roddi; modd y gallo ein calon∣nau ymroi i vfyddhau i'th orchymynnion; a thrwy dy amddeffyniad i ni rhag ofn ein gelynion, allu o honom dreulio ein amser mewn heddwch a thang∣neddyf, drwy haeddedigaethau Iesu Grist ein Ia∣chawdur. Amen.
GOleua ein tywyllwch, ni a attolygwn i ti o Arglwydd; a thrwy dy fawr drugaredd amdde∣ffyn nyni rhag pob pericl ac enbydrwydd y nôs hon; er serch ar dy vn Mâb ein Iachawdur Iesu Grist. Amên.