Rhan o waith Mr. Rees Prichard, Gynt Ficcar LLan-ddyfri yn shir gaer-fyrddyn, a osodwyd allan er Daioni'r Cymru.: Some part of the works of Mr. Rees Prichard, sometimes Vicker of Llandyfri in the County of Carmarthen.

About this Item

Title
Rhan o waith Mr. Rees Prichard, Gynt Ficcar LLan-ddyfri yn shir gaer-fyrddyn, a osodwyd allan er Daioni'r Cymru.: Some part of the works of Mr. Rees Prichard, sometimes Vicker of Llandyfri in the County of Carmarthen.
Author
Prichard, Rhys, 1579-1644.
Publication
Printiedig yn Llundain :: Ag a werthir gan Thomas Brewster, tan lûn y tri Bibl yn ymmyl Pauls,
1659.
Rights/Permissions

This keyboarded and encoded edition of the work described above is co-owned by the institutions providing financial support to the Early English Books Online Text Creation Partnership. Searching, reading, printing, or downloading EEBO-TCP texts is reserved for the authorized users of these project partner institutions. Permission must be granted for subsequent distribution, in print or electronically, of this text, in whole or in part. Please contact project staff at eebotcp-info@umich.edu for further further information or permissions.

Subject terms
Devotional literature
Cite this Item
"Rhan o waith Mr. Rees Prichard, Gynt Ficcar LLan-ddyfri yn shir gaer-fyrddyn, a osodwyd allan er Daioni'r Cymru.: Some part of the works of Mr. Rees Prichard, sometimes Vicker of Llandyfri in the County of Carmarthen." In the digital collection Early English Books Online 2. https://name.umdl.umich.edu/A90995.0001.001. University of Michigan Library Digital Collections. Accessed May 6, 2024.

Pages

Cyngor yn rhybuddio dyn i ymgadw, rhag lleteua meddyliau drwg yn ei galon, ag i droi ei fe∣ddyliau bob amser, i fyfyrio ar ddaioni.

MAe holl feddwl dŷn ysowaeth, Gwedi' lygru wrth naturiaeth, Ni fyfyria ond drygioni, Nes y darffo ei aileni.
Nid oes dŷn ag all myfyrio, Meddwl da, gwnaed oreu 'gallo, Nes cael gallu Duw ai radau, I gyfrwyddo ei feddyliau.

Page 70

O gweddia 'n daer gan hynny, Ar ir Arglwydd adnewyddu, Dy feddyliau ath amcanion, I fwriadu ar yr vnion.
Felly y denfyn Duw ei ysbryd, I oleuo dy feddylfryd, Ag i newid dy fedd y liau, I fwriadu yr hyn sydd orau.
Nâd i feddwl drug leteua, Yn dy galon rhag dy ddifa, Gwâs yn ceisio lleu i Satan, Bôb yn awr yw 'r meddwl aflan.
Dôd dy feddwl ath fyfyrdod, Ar y pethau sydd oddi vchod, Lle mae Christ dy brynwr hygar, Nid ar bethau s'ar y ddaear.
Rho dy frud ar bethau nefol, Ag na sercha ddim daiarol, Meddwl am y wlad y gorfydd, Aros ynddi yn dragywydd.
Meddwl am y pethau brynodd, Christ ai waed it yn y nefoedd, Heddwch Duw a choron hyfryd, Teyrnas hardd, a didrange fywyd.
Meddwl dy fod tra fech byw, Bob yn awr yngolwg Duw, A bod Duw yn gweld d' ymddgiad, Ymhob man a chil ei lygad

Page 71

Meddwl fod y gelyn gwaedlyd, Ddydd a nôs fell llew newynllyd, Yn troi daetu ith orweddfa, Bôb yn awryn ceisio 'th ddifa,
Meddwl am reoli d' eiriau, Ath weithredodd, ath feddyliau, Wrth fodd Duw, rhag iddynt beri, Gwascfa ith Enaid ddydd dy gyfri.
Meddwl fel y daw dy brynwr, Yn y cym 'lau i chwareu 'r barnwr, Ag ymgweiria i gyfarfod, Fel priod-ferch gwrdd ai phriod.
Meddwl fel y gorfyed rhoddi, Ddydd y farn mor fanwl gyfri, Am y meddwl drwg ar bwriad, Ag y roir am weithred anllad.
Meddwl fal yr awn oddiymma, Ir tŷ pruddlud am y cynta, Mewn Cwd canfas heb vn Beni, Pe bae in ni rent Arglwyddi.
Meddwl fôd yr Angau aethlud, Ar farch glâs yn gyrru 'n ynfud, Fal na ddichon hên nag ifange, Rhag ei saeth ai ddwrnod ddiange.
Meddwl hefyd y daw Angau, Megis lleidir am ein pennau, Heb vn vdorn i'n rhybuddio, Yn ddi-ymgais i'n anrheithio.

Page 72

Meddwl nad iw bywyd vn dyn, Ond fel Bwmbwl ar y llyn-wyn, Neu fel Padell bridd neu wydur, 'Rhwn yn hawdd y dyrr yn glechdur,
Meddwl fel y rhêd ein heinioes, Megis llong dan hwyl heb aros, Ag y derfydd am ein hamser, Cyn in' dybied draelo ei hanner.
Meddwl fôd y byd yn gado, Pawb yn llwm i fynd o hono, Ag fel iâ yn torri danynt, Pan bo rheitia ei gymmorth iddynt.
Meddwl na ddaw aûr nag arian, Tai na thir mor droydfedd fechan, Gida neb i fynd ir frawdleu, I roi cifrif am beieu.
Meddwl pan y delo Angau, Gorfydd gado 'r bŷd ai bethau, A mynd o flaen Ghrist yn wisci, Am y Cwbwli roi cifri.
Meddwl fal y bydd dy dlwsseu, Ath holl olud, ath holl swyddeu, Yn ym ofyn newydd feistri, Cyn y caffech gwbwl oeri.
Meddwl dosted y fydd pechod, Yn dolurio dy gydwybod, Pan y cywler yn dy ddanedd, Ddydd y farn dy holl anwiredd.

Page 73

Meddwl fal y gorfydd rhoddi, Ddydd y farn ir Arglwydd gyfri, Am bob gwithred ddrwg y wnelom, Ar gair ofer ag y ddywetom.
Meddwl fal y bydd gwŷr gwychion, Sydd heb ofni Duw na dynion, Ddydd y farn yn crio 'n scymyn, Am ir creigiau gwympo arnyn.
Meddwl fal y bydd y duwiol, Yn y nef mewn braint rhagorol, Yn clodfori Duw gorucha, Pan bo eraill yn Gehenna,
Meddwl fal y mae'r annuwiol, Yn ymdroi mewn tân vffernol, Ar pruf didrangc yn ei bwyta, Bob yn awr heb gael ei wala.
Meddwl am hyn, a dibrissia, Y bŷd hwn ai wagedd mwya, A myfyria trwy wir grefydd, Ar air Duw, ar bŷd na dderfydd,
Meddwl dyn a red heb orphwys, Ar y drwg neu 'r da gyrhaeddwys, Oni chaift beth da i fyfyrio, Ar y drwg fe rêd tra gallo.
Meddwl dŷn fel mâen y felin, Y droel a ei hun nes mynd yn gilin, Oni roir rhiw rinwedd dano, Iddo falu, ai fyfyrio.

Page 74

Meddwl weithio 'r gwaith y bwyntiodd, Dy greawdwr pan ith greuodd, Ai wasnaethu ath holl bwer, Yn dy alwad tra cech amser.
Meddwl mae gwell vn diwrnod, Yn gwasnaethu 'r sanctaidd drindod, Na'th holl ddyddiau, nath holl, oesach, Yn gwasnaethu dim amgenach.
Meddwl cin y gwelych bechod, B'wedd attebu ddydd dy drallod, A pha fodd i gallu ddiangc, Ddydd y farn rhag angau didrângc.
Dôd dy feddwl ar ddaioni, Nad ar wagedd iddo ymborthi, Hawdd y gallu i gyfrwyddo, Os mewn pryd y ceisi' ffrwyno.
Hadd iw diffodd y wreichionen, Cyn y mafloi yn y nembren, Hawdd iw newid meddwl aflan, Os gwrthnebir hwn yn fuan.
Tro gan hynny yn ebrwydd heibio, Bôb drwg feddwl pan dechreuo, Rhag ir gelyn mawr ei hocced, Droi'r drwg feddwl yn ddrwg weithred.
Lladd blant Babel trafo'nt fechgin, Sang ar sarph tra foe 'n y rhisgin, Tyn y gangren cyn ei gwreiddio, Tro ddrwg feddwl cin cynyddo.

Page 75

Gâd wreichionen fach i gynnu, Yn dy do, hi lusc dy lettu, Gâd i feddwl drwg leteua, Yn dy galon ie'th anrheithia.
Na leteua feddwl aflan, Yn dy galon mwy na Satan, Os lletteui rwyti 'n derbyn, Harbinger o flaen gelyn.
Rho dy frud ar gadw'r gyfraith, A byw wrthi, yn ddiragraith, Ag na ollwng Duw oth feddwl, Ond bendithia e, am y cwbwl,
Na fwriada ddrwg oth galon, I anrheithio dy gid. gristion, Mwrddwr yw 'r fath feddwl gwaedlyd, Gwachel rhagddo er dy fywyd,
Na thrachwanta wraig cŷmydog, Ag na hoffa ei llygaid serchog, Nâd ith feddwl redeg arni, Cans godineb yw î hoffi.
Gwachel roi dy frud nath fwriad, Ar anrheithio vn amddifad, Trais a blin orthrymder yw. Y cyfriw fwriad o flaen Duw,
Gwachel chwennych Aur nag arian, Tai na thir, trwy dwyll a chogan, Nid iw'r cyfriw chwant a bwriad, Gar bron Duw, ddim llai na lledrad.

Page 76

Rhwym dy feddwl nàd e'i wibian, Ar ofer edd mawr na bychan, Nag ar ddim na ellech roddi, Côunt am dano ddydd dy ddidri,
Cadw'th galon rhag drwg fwriad, Fel y cedwr'th law rhag lledrad, Mae'n rhaid âtteb yn cin gaethed, Am ddrwg fwriad ar ddrwg weithred.

Notes

Do you have questions about this content? Need to report a problem? Please contact us.