Rhan o waith Mr. Rees Prichard, Gynt Ficcar LLan-ddyfri yn shir gaer-fyrddyn, a osodwyd allan er Daioni'r Cymru.: Some part of the works of Mr. Rees Prichard, sometimes Vicker of Llandyfri in the County of Carmarthen.

About this Item

Title
Rhan o waith Mr. Rees Prichard, Gynt Ficcar LLan-ddyfri yn shir gaer-fyrddyn, a osodwyd allan er Daioni'r Cymru.: Some part of the works of Mr. Rees Prichard, sometimes Vicker of Llandyfri in the County of Carmarthen.
Author
Prichard, Rhys, 1579-1644.
Publication
Printiedig yn Llundain :: Ag a werthir gan Thomas Brewster, tan lûn y tri Bibl yn ymmyl Pauls,
1659.
Rights/Permissions

This keyboarded and encoded edition of the work described above is co-owned by the institutions providing financial support to the Early English Books Online Text Creation Partnership. Searching, reading, printing, or downloading EEBO-TCP texts is reserved for the authorized users of these project partner institutions. Permission must be granted for subsequent distribution, in print or electronically, of this text, in whole or in part. Please contact project staff at eebotcp-info@umich.edu for further further information or permissions.

Subject terms
Devotional literature
Cite this Item
"Rhan o waith Mr. Rees Prichard, Gynt Ficcar LLan-ddyfri yn shir gaer-fyrddyn, a osodwyd allan er Daioni'r Cymru.: Some part of the works of Mr. Rees Prichard, sometimes Vicker of Llandyfri in the County of Carmarthen." In the digital collection Early English Books Online 2. https://name.umdl.umich.edu/A90995.0001.001. University of Michigan Library Digital Collections. Accessed May 6, 2024.

Pages

Page 1

Addysc a chynghorion ynghylch gwrando pregethiad yr Efengil, ag ynghylch chwilio 'r Scrythyrau.

O Cais gwr, na gwraig, na bachgen, Ddyscu'r ffordd 'r nefoedd lawen, Ceisied air Duw iw gyfrwyddo, Onid ê, fe aiff ar ddidro,
Mae'r nef ymhell, mae'r ffordd yn ddrys, Mae'r trammwy'n fach, mae rhwystrau anhap pys, Mae'r porth yn gul i fyned trwyddo, Heb oleu'r gair, nid air byth atto.
Mae'r nef vwchlaw, yr haul a'r lleuad, Mae'r ffordd yn ddierth itti ddringad, Rhaid Christ yn Escol cyn dringhadech, Ai air yn ganwyll cyn canfyddech.
Mae llawer craig o rwystrau cnawdol, Mae llawer mor o drallod bydol, Cyn mynd ir nef, rhaid myned trostynt, Heb oleu'r gair, nid air byth trwyddynt.

Page 2

Mae llawer mil o lwybrau Ceimion, O ddrysswch blin, offoesydd dyfnion, Cyn mynd i'r nef, rwi'n dwedyd wythyd, Heb oleu'r gair, nielli i gweglyd.
Di ally fynd, i vffern danllyd, Llwyr dy ben, heb vn cyfrwyddyd, Nid aiff neb, ir nef gwnaed allo, Heb y fengil iw gyfrwyddo.
Nid golau'r haul, nid golau 'r lleuad, Nid golau'r dydd, na'r ser sy'n gwingad, Ond golau'r gair, a'r fengil hyfryd, All dy oelu o i dir y bywyd.
Cymer lantern Duw'th olevo, A'r Efengil, ith gyfrwyddo, Troyda'r llwybyr cul orchmynnwys, Di ai yn union i Baradwys.
Y gair yw'r ganwyllath oleua, Y gair yw'r gennad ath gyfrwydda, Y gair ath arwain i baradyws, Y gair ath ddwg ir nef yn gymmyws.
Dilyn dithau oleuni'r gair, Gwna beth archwys vn mab Mair, Gwachel wneuthur a wrafynnwys, Di ai yn vnion i baradyws.
Seren wen yn arwain dyn, O fan i fan at Grist ei hun, Yw'r Efengil igyfrwyddo, Pawb ir nefoedd ai dilyno.

Page 3

Bwyd ir Enaid, bara'r bywyd, Gras ir corph a maeth i'r yspryd, Lampir troed, a ffrwyn ir genau, I gair Duw, a'r holl scrythyrau.
Llaeth i fagu'r gwan ysprydol, Gwin ilonni'r trist cystiddyol, Manna i borthi'r gwael newynllyd, Ydiw'r gair, ar fengil hyfryd.
Eli gwych rhag pob rhyw bechod, Oyl i ddofi gwun cydwybod, Triagl gwerthsawr, rhag pob gwenwyn, Y diw'r gair, a balsam aeddfwyn.
Mwrthwl dur i barrio'n cnappieu, Bwyall! em i dorri ein ceingieu, Rheol gymmwys, i'n trwssianu. Ydiw'r gair, ac athro i'n dysgu.
Udcorn pres i'n gwffio ir frawdle, Cloch in gwawddi wella ein beieu, Herawld yn proclaimio ein heddwch, Ydiw'r gair a'n gwir ddiddannch.
Y gair yw'r drych sy'n gwir ddinoethi, Ein holl frychau, a'n holl frwnti, Ag yn erchi inni i gwella, Tra fo'r dydd, a'r goleu'n para.
Y gair yw'r had sy'n adgenhedlu, Yn blant i Dduw, yn frodyr Jesu. Yn deulu'r nef, yn demlau ir yspryd; Yn wir drigolion tir y bywyd.

Page 4

Heb y gair nid wyn dychymig, Pa wedd y bydd dyn yn gadwedig, Lle mae 'r gair yn Benna or moddion, Ordeiniodd Christ i gadw Christion.
Heb y gair ni allir nabod Duw, nai nattur, nai lan hanfod, Nai fab Christ, na'r sanctaidd yspryd, Na rhinweddau'r Drindod hyfryd.
Heb y gair ni ddichon vn dyn, Nabod wllys Duw nai ganlyn, Na gwir ddysgu'r ffordd i addoli, Nes i'r gair roi iddo eleuni.
Heb y scrythur ni ddealla, Vn dyn byth, oi gwymp yn Adda, Nai drueni nai ymwared, Trwy fab Duw o'r fath gaethiwed.
Heb y gair ni all neb gredu, Yn Ghrist Jesu fu'n ei brynu, Cans o wrando'r gair yn brydd, Y mae i Gristion gyrraedd ffydd.
Heb y gair nid yw Duw'n arfer, Troi vn enaid oi diffeithder, Ond trwy'r gair Mae'n arferedig, Droi 'r Eneidiau fo Cadwedig.
Ar gair y trows yr Apostolion, Y Cenhedloedd yn Gristnogion,

Page 5

Heb y gair peth dierth yw, Droi pechadur byth at Dduw.
A phregethiad vn Efengil, Y trows Pedr gwedi tair mil, O Iddewon i wir gredu, Ar ol iddynt ladd yr Jesu.
Trwy had y gair, yr adgenhedla, Yspryd Duw'r pechadur mwya, Ag ai gwna, yn orau ei riw, Yn frawd i Grist, yn fab i Dduw.
Y gair sy'n cynnwys ynddo yn helaeth, Faint sydd raid at jechydwrjaeth, Chwilia hwn, a chais yn astyd, Ynddo mae'r tragwyddol fywyd.
Christ sy'n erchi it lafurio, Am y gair, ath draed ath ddwylo, Mwy nag am y bwyd y dderfydd, O chwenychu fyw'n dragywydd.
Fel y llef dyn bach am fronnau, Fel y cais tir cras gafadau, Fel y brefa'r hudd am ffynnon, Llef am eiriau 'r fengil dirion.
Gwerth dy dir, a gwerth dy ddodren, Gwerth dy grus oddiam dy gefen, Gwerth y cwbwl oll sydd gennyd, Cyn bech byw heb air y bywyd.

Page 6

Gwell it fod heb fwyd, heb ddiod, Heb dŷ, heb dan heb wely, heb wascod, Heb oleu'r dydd, a'r haul gariaidd, Na bôd heb y fengil sanctaidd.
Tost yw aros mewn Cornelyn, Lle na oleuo'r haul trwy'r flwyddyn, Tostach trigo yn y cwarter, Lle na oleuo 'r gair vn amser.
Na thrig mewn gwlad, heb law ar brydieu, Mewn glyn heb haul, mewn ty heb oleu, Mewn tre heb ddwr, mewn llong heb gwmbas Mewn plwyf heb riw bregethwr addas.
Gado'r wlad, a'r plwyf, a'r pentre, Gado'th dad, ath fam, ath drasse, Gado'r tai, a'r tir yn ebrwydd, Lle na bytho gair yr Arglwydd.
Gwell it drigo mewn Gogofeu, A chael gwrando'r fengil weithieu, Nag it drigo mewn gwlad ffrwythlon, Lle na bytho'r fengil dirion.
Tost yw trigo mewn tywyllwch, Lle na chaffer dim diddanwch, Tristach trigo yn rh hair, Lle na chaffer gwrando'r gair.
Nid gwaeth trigo'mysc y Twrcod, Sydd heb ofni Duw nai nabod, Nag it drigo yn dost dy drigil, Lle na chlywyr Christ nai fengil.

Page 7

Tyn i Loeger, tyn i Lyndain, Tyn dros for, tu hwnt i Rufain, Tyn i eitha 'r byd ar drigil, Nes y caffech gwrdd a'r fengil.
Blin it weld yr haul a'r glaw, Mewn plwyfe dauty yma a thraw, A'th plwyf dithau (peth yscymmin) Heb na haul na glaw trwy'r flwyddin.
Oni bydd vn bregeth ddirfing, Yn y plwyf lle bech yn taring, Dos y maes ir plwyf lle bytho, Nad vn Sabboth heb i gwrando.
Pan fo eisiau a'r dy fola, Di ai i'r gell i geisio bara, Pan fo newyn ar dy enaid, Nid ai i vn lle, i geisio ei gyfraid.
Beth a dal it borthi'r corphin, O bydd dy enaid marw o newyn, A all dy gorph di gael difyrrwch, Pan fo dy 'enaid marw o dristwch.
Drwg it ladd y corph a newyn, Eisiau bara tra fo'r flwyddyn, Gwaeth o lawer lladd yr yspryd, Eisiau borthi a bara'r bywyd.
Llef gan hynny ar y ffeiriaid, Am roi bwyd i borthi d'enaid, Rwyt ti 'n rhoi dy ddegwm iddyn, Par i nhwyntau dorri'th newyn.

Page 8

Gwrando r gair o enau'r ffeiriad, Fel o enau Christ dy geidwad, Christ a roes awdurdod iddo, Ith gynghori ath rybuddio.
O pair Christ i ffeiraid noethlyd, Dy rybuddio well a'th fywyd, Rwyti yn rhwym i wneuthur archo, Pe doe Assen ith rhybyddio.
Os dy fugail sydd anweddaidd, Ai athraw jaeth yn Gristnogaidd. Dysc y wers, na ddysc ei arfer, Gwachel feieu Paul a Pheder.
Pe doe Suddasi bregethu, Fengil Grist, ti ddylid i dyscu, Fe all y fengil gadw d'enaid, Erith Athro dost gamsyniaid.
Na wna bris oi wedd ai wiscad, P'un ai gwych, ai gwael fo'i ddillad, Nid llai grym y fengil gyngan, O'r shiacced ffris na'r gassog sidan.
Cymer berl o enau llyffan, Cymer aur o ddwylo aflan, Cymer win o fottel fydur, Cymer ddysc o ben pechadur.
Gwrando'r fengil, Christ iw hawdwr, Pwy fath bynnag fo'r pregethwr, Prissia'r gair, na ffrissia'r gennad, Christ ei hun ai helodd attad.

Page 9

Cadw'r geiriau yn dy galon, Nad ei dwyn gan gigfrain duon, Had yw'r gair ith adgenhedlu, Os ir galon y derbynnu.
Dyfal chwilia di'r Scrythyrau, Darllen air Duw nos a borau, Dilyn arch y gair yn ddeddfol, Hynny'th wna di'n ddoeth anianol.
Cadw'r gair pob Pryd ith galon, Ac yspysa hwn ith feibion, Sonnia am dano nos a boreu, Y mewn, y maes wrth rodio ac eiste.
Dod e'n gadwyn am dy fwnwg, Dod e'n rhagdal o flaen d'olwg, Dod e'n signet ar dy fyssedd, Na ddos hebddo led y droedfedd.
Gwna'r gair beunydd yn gydymmaith, Gwna'n gywely it bob noswaith, Gwna e'n gyfaill wrth shiwrneia, Gwna'r peth a archo wrth chwedleua.
Gwna fe'n ben Cynghorwr itti, Gwna fe'n Athro ith rheoli, Fe ry'r gair it, gan gwell cyngor, Nag a roddo un rhiw Ddoctor.
Nad ei drigo yn yr Eglwys, Gida 'r ffeirad 'r hwn ai traethwys, Dwg ef adref yn dy galon, Ail fynega rhwng dy ddynion.

Page 10

Gwna di'r gair yn ddysclaid benna, Ar dy ford tra fech yn bwyta, Gwedi bwyta, cyn cyfodi. Bid y gair yn juncats itti.
Rho ith enaid nos a borau, Frecffast fechan, o'r scrythyrau, Rho iddo giniaw bryd, a swpper, Cyn yr elych ith esmwythder.
Fel y porthi'r corph a bara, Portha denaid bach a'r manna, Nadith enaid hir newynu, Mwy na'r corph syn cael i fagu.
Mae'r bibl bach yn awr yn gysson, Yn jaith dy fam iw gael er coron, Gwerth dy grys cyn bod heb hwnnw, Mae'n well na thref dy dad ith gadw.
Gwell nag aur, a gwell nag arian, Gwell na'r badell fawr nar crochan, Gwell dodrennyn yn dy lettu, Ywr bibl bach, na dim a feddu.
Fe ry gonffordd, fe ry gyngor, Fe ry addysc gwell na Doctor, Fe ry lwyddiant a diddanwch, Fe ry't lawer o ddedwyddwch.
Fe ry bara i borthi denaid, Fe ry laeth i fagu'th weiniad, Fe ry gwin ith lawenhau, Fe ry eli ith jachau;

Page 11

Pwy na phrynau 'r bibl sanctaidd, Sydd mor werthfawr ag mor griaidd, Pwy na wertheu dy ai dy ddyn, I bwrcassu 'r faeth ddodrennyn.
Dyma'r perl y fyn y Jesu, I bob Cristion doeth i brynu, Fely Marchant call a wertheu, I brynu hwn faint oll y feddeu.
Gan i Ddnw roi inni 'r Cymru, Ei air sanctaidd in gwir ddyscu, Moeswch inni fawr a bychain, Gwy mpo i ddyscu hwn ai ddarllain.
Moeswch inni wyr a gwragedd, Gida i gilydd heb ymhwedd, Brynu bob vn iddo lyfyr, I gael ddarllain geiriau'r scrythyr.
Moeswch inni bawb rhag gwradwydd, Ddyscu darllain gair yr Arglwydd, Gan i Dduw ei ddanfon adre, Attom bawb yn jaith ein mammeu.
Nadwn fynd y gwaith yn ofer, Y fy gostfawr i wyr Lloeger, Rhag na fetrom wneuthur cyfri, Ddydd y farn am gyfriw wrthni.
Gwyr a gwragedd, Merched, Meibion, Cymrwn ddysc oddi wrth y Saeson, Rhai a fedrant bob vn ddarllain; Llyfyr Duw'n ei jaith ei hunain.

Page 12

Gwradwydd blin i ninnau 'r Cymru, Oni cheisiwn weithan ddyscu, Darllain gair Dnw a'r Scrythyrau, Gan ei brintio 'n jaith ein mamman,
Ni chist bibl i'ti weithian, Ddim tu hwnt i goron arian, Gwerth hen ddafad y fo marw, Yn y clawdd ar noswaith arw.
O meder vn o'r tylwyth ddarllain, Llyfyr Duw yn ddigon Cwyrain, Fe all hwnnw'n ddigon esmwyth, Ddyscu'r cwbwl o'r holl dylwyth.
Ni bydd Cymro'n dyscu darllian, Pob Cymraeg yn ddigon Cywrian, Ond vn misgwaith, beth yw hynny, O's bydd ewyllys gantho i ddyscy.
Mae'n gwilyddys i bob Christion, Na chlyw arno stofi coron, Ag vn misgwaith oi holl fwyd, Ynghylch dyscu 'r fengil hyfryd.
Mae'r Cobleriaid ai morwynion, A rhai gwaela' mysc y Saeson, Bob yr nna'r bibl ganddynt, Dydd a nos yn darllain ynddynt.

Page 13

Mae Pennaethiaid gyda ninnau, Ai tableri ar ei bordau, Heb vn bibl, nag vn plygain, Yn ei tai, na neb i darllain.
Peth cwilyddus gweld Cobleriaid, Yn rhagori ar Bennaethiaid, Am gadwrjaeth ei heneidiau, Ar peth rheitia mewn neuaddau.
Y Cobleriaid hyn y gyfyd, Dydd y farn yn anian aethyld, I gondemnio 'r fath Bennaethiaid, Sy dd mo'r ddibris am yr enaid,
Pob merch Tingcer gi da'r Saeson, Feider ddarllain llyfrau Mawrion, Ni wyr merche'd llawer Squier, Gyda ninnau ddarllain pader.
Gwradwydd tost sydd ir Brittaniaid, Fod mewn Crefydd mor ddieithraid, Ac na wyr y canfed ddarllain, Llyfr Duw'n eih jaith ei hunain.
Bellach moeswch in rhag cwilydd, Bob rhai ddyscu pwcniau Crefydd, Ac ymroi i ddyscu ddarllain, Llyfr Duw a'n jaith ein hunain.
Felly gallwn ddyscu nabod, Y gwir Dduw ai ofni'n wastod, Ac oi nabod ai wir ofni, Fe ry ddi-drangc fywyd inni.

Page 14

Duw ro gras a grym i Gymru, Adnabod Duw ai wir wasnaethu, Christ a nertho pob rha i ddarllain, Llyfyr Duw'n ei jaith ei hunain.

Notes

Do you have questions about this content? Need to report a problem? Please contact us.