i Dduw yn dragywyddol, ar a wir gyssylltir ag ef, ac a ail-enir trwyddo ef. A thrachefn yr ydys yn rhoddi y titl neu 'r enw Tàd yn fynych ir, person cyntaf o'r Drindod, megis yn y mannau lle yr ydys yn cofio am bob person wrtho ei hun, ac megis yn eu cymha∣ru, un â'i gilydd, megis yn y mann hynny, lle y gorchymynnir bedyddio, yn enw 'r Tàd, a'r Máb, a'r Yspryd glân. Ac felly yn y mann hyn, y mae 'r titl Tád, am achos ar∣bennig, yn cyttuno â'r person cyntaf. Canys y mae efe yn Dâd i Grist, mal y mae Crist o dragywyddoldeb yn Air iddo, a hynny o wir naturiaeth, am ei fod o'r vn hanfod â'r Tád. Eilwaith, y mae efe yn Dâd i Grist o ran ei ddyndod, nid o naturiaeth neu o fab∣wysiad, eithr trwy vndeb personol, am fod y naturiaeth ddynawl yn aros ym mherson y Gair, wedi ei vno ag ef. Ac yn ddiweddaf y mae efe yn Dâd ir holl ffyddloniaid trwy fabwysiad yn-Ghrist. Gal. 4.5.6.
Yr Ail gwestiwn yw hyn, A ydym ni rwy∣medig i weddio ar y Mâb a'r Yspryd glan, megis ac ar y Tâd?
Atteb. Fo berthyn ein gweddi i bôb vn o'r tri pherson yn y Drindod, ac nid ir Tàd yn vnig. Act. 7.59. Y mae Stephan yn gweddio, Arglwydd Jesu derbyn fy yspryd. A Duw ei hun(medd Paul, 1 Thes. 3.11.) a'n Tad ni, a'n Harglwydd Jesu Grist, a gyfar∣wyddo ein ffordd ni atto chwi. A Grâs ein Harglwydd Jesu Grist, A chariad Duw, a chymdeithas yr yspryd glàn, a fyddo gyd a chwi