Llyfr y Psalmau,: wedi eu cyfieithu, a'u cyfansoddi ar fesur cerdd, yn gymraeg / o waith Edmund Prys, Arch-diacon Meironydd.

About this Item

Title
Llyfr y Psalmau,: wedi eu cyfieithu, a'u cyfansoddi ar fesur cerdd, yn gymraeg / o waith Edmund Prys, Arch-diacon Meironydd.
Author
Prys, Edmund, 1544-1623.
Publication
Argraphwyd yn y Mwŷthig :: gan Thomas Jones,
1700.
Rights/Permissions

This keyboarded and encoded edition of the work described above is co-owned by the institutions providing financial support to the Early English Books Online Text Creation Partnership. Searching, reading, printing, or downloading EEBO-TCP texts is reserved for the authorized users of these project partner institutions. Permission must be granted for subsequent distribution, in print or electronically, of this text, in whole or in part. Please contact project staff at eebotcp-info@umich.edu for further further information or permissions.

Subject terms
Psalters.
Bible. -- O.T.
Cite this Item
"Llyfr y Psalmau,: wedi eu cyfieithu, a'u cyfansoddi ar fesur cerdd, yn gymraeg / o waith Edmund Prys, Arch-diacon Meironydd." In the digital collection Early English Books Online 2. https://name.umdl.umich.edu/A76682.0001.001. University of Michigan Library Digital Collections. Accessed May 3, 2024.

Pages

PSALM. 135.

1
O Molwch enw'r Arglwŷdd nêf, ei welsion êf moliennwch, 2 Y rhai a saif iw dŷ, a'i bŷrth,Line 2 i'n Duw a'i fawr wŷrth cenwch. 3 Molwch yr Arglwŷdd can's dâ ŷw,Line 3 clôd i'r Iôr bŷw a berthŷn: Cenwch ei glôd dros yr hôll Fŷd, a hyfrŷd ŷw y testŷn.
2
4 Oblegid yr Arglwŷdd, a'i nawdd,Line 4 ef a etholawdd Iago, Ac Israel, iw mŷsg a trig, yn deulu unig iddo. 5 Can's mawr ŷw'r Arglwŷdd yn ei lŷs,Line 5 mi a wn yn hysbŷs hynnŷ: Ym mhell uwchlaw'r hôll dduwiau mân, mae'r Arglwŷdd glân, a'i allu.
3
6 Hŷn ôll a fynnodd a wnaeth êf,Line 6 yn uchder nêf eithafon: Ar ddaiar, ac yn y môr cau, a holl ddyfnderau'r eigion. 7 O elthaf daiar cyfŷd tarth,Line 7 daw'r mellt o bôb parth hwŷthau, Ac oer dymhestloedd, glaw, a gwŷnt, a godŷnt o'i drysorau.
4
8 Yn nhîr yr Aipht dynnion, a dâ,Line 8 a llawer plâ a trawodd.

Page 90

Y cyntaf-anedig o bôb un, a'i law ei hun a llâddodd. 9 I'th ganol di, o'r Aipht greulon,Line 9 rhoes Duw arwŷddion rhyfedd, Ar Pharo' a'i hôll weision igŷd: dug drwŷ'r hôll fŷd orfoledd.
5
10 O nerth ei fraich efe a wnaeth,Line 10 lawer cenhedlaeth feirwon: A lladdodd lawer yr un wêdd o ben brenhinedd cryfion 11 Sêf o'r Amoriaid Sihon fawr,Line 11 ac Og, y cawr o Basan: A'r un ddinistriad arnŷnt aeth, a hôll frenhiniaeth Canaan
6
12 A'u hôll diroedd hwŷnt igŷd:Line 12 gyda'u hôll fywŷd bydol, I Israel i roi a wnaeth, yn etifeddiaeth nerthol. 13 Dy enw (O Arglwŷdd) a'th nerth crŷ,Line 13 a berŷ yn dragywŷdd, Ac o genedl i genhedlaeth dy goffadwriaeth, lywŷdd,
7
14 Canŷs ar ei bobl a rhŷdd ef farnLine 14 yr Arglwŷdd cadarn cyfion, Ac yn ei hôll lywodraeth bur, bŷdd dostur wrth ei weision. 15 Y delwau ôll, gwaith dwŷlaw ŷn,Line 15 a dyfais dŷn anffyddlon; O aur ac arian dŷn a'u gwnaeth, o hîl cenhedlaeth weigion.
8
16 O waith dŷn, geneu rhŵth sŷdd,Line 16 heb ddim llyferŷdd iddŷn: Ac mae llun llygaid mawr eu llêd, a'r rhain heb weled gronŷn. 17 Dwŷ glust dynnion i bôb un,Line 17 heb glywed mymrŷn etto, Eu safn sŷdd eheng, ac ni chaid na chwŷth nag enaid yntho.
9
18 Uu fôdd a'r delwau fŷdd y rhaiLine 18 a'u gwnêlai hwŷnt a'n dwŷlo, Ac nid ŷw well na'r rhain yr un, ynthŷn a ymddiriedo. 19 Tŷ Israel, na choeliwch chwi,Line 19 Tŷ Aaron, Lefi ufudd, 20 I'r rhain ddim, ond i'r Arglwŷdd nêfLine 20 bendithiwch e'n dragywŷdd.
10
21 Bendithier fŷth mawr enw'r Iôn,Line 21 o Seion hên a barchem, Bendithier, a moler ei enw fo, sŷ'n trigo ynghaer Selem.
Do you have questions about this content? Need to report a problem? Please contact us.