Llyfr y Psalmau,: wedi eu cyfieithu, a'u cyfansoddi ar fefur cerdd, yn gymraeg. / Drwy waith Edmund Prys archdiacon Merionydd.

About this Item

Title
Llyfr y Psalmau,: wedi eu cyfieithu, a'u cyfansoddi ar fefur cerdd, yn gymraeg. / Drwy waith Edmund Prys archdiacon Merionydd.
Author
Prys, Edmund, 1544-1623.
Publication
Argraphwyd yng Haerludd :: Dros Thomas Jones. Ag ar werth drosto ef gan Mr. Charles Beard ..., a Mr. John Marsh ... yn Llundain,
1687.
Rights/Permissions

To the extent possible under law, the Text Creation Partnership has waived all copyright and related or neighboring rights to this keyboarded and encoded edition of the work described above, according to the terms of the CC0 1.0 Public Domain Dedication (http://creativecommons.org/publicdomain/zero/1.0/). This waiver does not extend to any page images or other supplementary files associated with this work, which may be protected by copyright or other license restrictions. Please go to http://www.textcreationpartnership.org/ for more information.

Subject terms
Psalters.
Bible. -- O.T.
Link to this Item
http://name.umdl.umich.edu/A76681.0001.001
Cite this Item
"Llyfr y Psalmau,: wedi eu cyfieithu, a'u cyfansoddi ar fefur cerdd, yn gymraeg. / Drwy waith Edmund Prys archdiacon Merionydd." In the digital collection Early English Books Online 2. https://name.umdl.umich.edu/A76681.0001.001. University of Michigan Library Digital Collections. Accessed June 12, 2024.

Pages

PSAL. LXXXIX.

MYfyriaf gerdd bŷth i barhâu, o drugareddau 'r Arglwydd: A'i wirionedd i'm genau fŷdd. hyd dragywydd yn cbrwydd. [verse 2] Sêf dwedais hyn: cair bŷth yn wîr, adeiledir trugaredd: I barhâu bŷth cair yn y nêf dy gadarn grêf wirionedd.
[verse 3] Fal hyn (ô Dduw) attebaist ym, mi wneuthym rwym gan dyngu I Ddafydd f' etholedig wâs, a'r gair o'm grâs yn tarddu. [verse 4] Fal hyn sicrhâf dy hâd di bŷth, a gwnâf wehelyth drefniad. I'th gadarn faingc o oed i oed, mi 'a rôf bôb troed yn wastad.

Page [unnumbered]

[verse 5] Am hyn y siccrwyd tragwyddawl y nêf o fawl dy wyrthiau: Yngorsedd Sainct, ynghyrchfa hêdd, am bur wirionedd d'eîriau. [verse 6] Pwy sŷdd cystal â'n harglwydd cu, pe chwilid llu'r wybrennau? Ymŷsg Angylion pwy mal Iôn, sef ymhlîth meibion duwiau?
[verse 7] Drwy gynulleidfa ei Sainct êf, Duw o'r nêf sŷdd ofnadwy: A thrwy'r hollfŷd o'n hamgylch ni, ei ofni fydd ddyladwy. [verse 8] Pwy sŷdd debig i ti Dduw bŷw, ô Arglwydd Dduw y lluoedd? Yn gadarn Iôr, a'th wîr i'th gylch, o amgylch yr holl nefoedd.
[verse 9] Ti a ostyngi y môr mawr, a'r don hyd lawr yn ystig: [verse 10] A north dy fraich curi dy gâs, yr Aipht, fal gwâs lluddiedig. [verse 11] Eiddod nêf a daiar i gyd, seiliaist y bŷd a'i lanw: [verse 12] Gogledd, deau, Tabor, Hermon, sy dirion yn dy enw.
[verse 13] I'th fraich mae grym, mae nerth i'th law a'th grê ddeheulaw codi: [verse 14] Nawdd a barn yw dy orsedd hîr, a nawdd a gwîr a geri. [verse 15] Eu gwnfyd i'r holl bobl a fŷdd, a fo'i llawenydd ynod: Ac yn llewyrch dy wyneb glân y rhodian i gyfarfod.
[verse 16] Yn d' vnig enw di y cânt, fawl a gogoniant beunydd, Yn dy gyfiownder codi wnânt, ac felly byddant ddedwydd. [verse 17] Can's ti wyd gryfder eu nerth hwy, lle caffent fwy o dycciant: Dydi a ddarchefi eu cyrn, ac felly cedyrn fyddant.
[verse 18] Can's o'r Arglwydd a'i ddaioni, y daw i ni amddiffin: O Sanct Israel drwy ei law, oddi yno daw ein brenin. [verse 19] I'th sanct y rhoist gynt wybodaeth, drwŷ weledigaeth nefol: Gosodais gymorrh ar gryf gun, derchefais vn dewisol.
[verse 20] Cefais (eneiniais êf yn ôl) fy ngwâs dewisol Dafydd [verse 21] Ag olew sanct: Braich a llâw grêf, rhoist gyd ag êf yn llywydd! [verse 22] Ni chaiff gelyn ei orthrymmu, na'i ddrygu vn mâb enwir: [verse 23] O'i flaen y coetha 'i elynion, a'i holl gaseîon dihir,
[verse 24] Fy ngwirionedd, a'm trugaredd, rhôf fi trwy gariad iddo, Ac yn fy enw i yn ddiorn, dyrchefir ei gorn efo. [verse 25] Gosodaf ei law ar y môr, ac o'r goror bwygilydd: A gosodaf ei law ddeau, hyd terfynau'r afonydd.
[verse 26] Ef a weddia arnaf fi iw galedi, gan ddwedyd, Ti yw fynhâd, fy Nuw, fy ngharn, yn gadarn o'm ieuenctyd. [verse 27] Minnau gwnaf yntau im yn fâb, yn gynfab ac etifedd, Ar frenhînoedd y ddaiar lâs, yn vwch ei râs a'i fowredd.
[verse 28] A chadwaf iddo (yr vn wêdd) drugaredd yn dragwyddol: A'm cyfammod iddo yn llawn, yn ffyddlawn, ac yn nerthol. [verse 29] Gosodaf hefyd bŷth i'w hâd, nerth a mawrhâd vwch bydoedd: A'i orsedd-faingc ef i barhâu, vn wêdd a dyddiau 'r nefoedd.
[verse 30] Ond os ei blant êf (drwy afrôl) nid ânt yn ôl fŷ nghyfraith. Os hwy ni rodiant, gan barhâu, i'm beirn a'm llwybrau perffaîth. [verse 31] Os fy neddfau a halogant, ni chadwant fy holl eirchion, [verse 32] Yna ymwelaf a'i cam gwrs, â gwiail scwrs, neu goedffon.
[verse 33] Ond ni thorraf ag ef vn nôd, o'm hammod a'm trugaredd: Ac ni byddaf fi ddim yn ôl, o'm ystyriol wirionedd. [verse 34] Ni thorraf fy nghyfammod glân, a ddaeth allan o'm genau, Ac ni newidiaf air o'm llŵ, mi a rois hwnnw 'n ddiau.
[verse 35] Yn fy sancteiddrwydd tyngais im na phallwn ddim i Ddafydd, [verse 36] Bŷdd ei hâd a'i drwn, yn ddi draul o'm blaen fel haul tragywydd. [verse 37] Yn dragywydd y ficcrheir êf, fel cwrs (îs nêf) planedau Haul neu leuad, felly y bŷdd ei gwrs tragywydd yntau.
[verse 38] Ond ti a'n ffieiddiaist ar fyrr, ac yn ddiystyr lidiog Di a gyffroaist yn drâ blîn. wrth dy frenin eneiniog.

Page [unnumbered]

[verse 39] Diddymmaist di dy air i'th wâs, a'th râs, a'th addewidion: Ac a'i halogaist êf yn fawr, gan daflu 'i lawr ei goron.
[verse 40] A dryllîaist ei fagwyrydd êf, a'i gaer grêf rhoi'st yn adwy, [verse 41] Yn egored felly y mae yn brae i bawb sy'n tramwy. [verse 42] Iw gym'dogion gwarthrudd yw êf, a than law grêf ei elyn, A llawen iawn y codent floedd, bôb rhai a oedd i'w erbyn.
[verse 43] Troist hefyd fîn ei gleddâu êf, a'i law oedd grêf a blygaist: [verse 44] Darfu ei lendid êf a'i wawr, a'i drwn i'r llawr a fwriaist. [verse 45] Prŷd ei ieuenctyd heibio 'r aeth, a thi a'i gwnaeth cyn fyrred, A bwriaist drosto wradwydd mawr, o nen hyd lawr y torred.
[verse 46] Pa hŷd fy Nuw y byddi 'nghudd? ai bŷth, fy llywydd nefol: A lŷsg dy lid ti fel y tân yn gyfan yn dragwyddol? [verse 47] O cosia f' oes ei bôd yn ferr, ai'n ofer gynt y gwnaeuthost Holl blant dynion? ô dal dy law, ac yn' ni ddaw yn rhydost.
[verse 48] Pa ŵr y sydd a'i oes dan sêl, na ddêl marwolaeth atto? Pwy a all ddiangc, ac ni ddaw y caib a'r rhaw i'w guddio? [verse 49] O mae dy nodded Arglwydd gynt? mae helynt dy drugaredd? Mae dy lŵ, ô ystyrîol ffŷdd, i ddafydd i'th wirionedd?
[verse 50] Cofia Arglwydd yn wradwydd llym lle'r ydym ni, dy weision: Yr hwn a dawdd i'm monwes i, gan ffrôst y Cowri mowrion. [verse 51] Yr hwn warth 'r oedd d'elynion di yt' yn ei roddi 'n llidiog, (Fy Arglwydd Dduw) a'r vn sŷr-hâd i droediad dy eneinog.
[verse 52] Moler yr Arglwydd bŷth, Amen, a bŷth Amen, hyn fytho. Moler yr Arglwydd bŷth, Amen, a byth Amen, hyn fytho.
Do you have questions about this content? Need to report a problem? Please contact us.