PSAL. LXXXVIII.
O Dduw fy Iechyd, nôs a dŷdd
mae 'ngweddi 'n vfydd arnad,
[verse 2] Gostwng dy glust, ô Arglwydd nêf,
a doed fy llêf hyd attad.
[verse 3] Can's mae fy enaid mewn dull caeth,
a'm heinioes aeth i'r beddrod:
[verse 4] Fel gŵr marw y rhifwyd fi,
a'm nerth oedd wedi darfod.
[verse 5] Mor farw a rhai wedi eu llâdd,
a'i taflu 'nghlâdd mewn angof,
A laddyt di mor siŵr a hyn,
na bai bŷth honyn atgof.
[verse 6] Gosodaist fi mewn dyfnder trŵch,
ac mewn tywyllwch eithaf,
[verse 7] Rhoist bŵys dy ddîg ar y corph mau,
a'th holl fôr-donnau arnaf.
[verse 8] Pellheist fy holl gydnabod dâ,
'rwyf yn ffieidd-dra iddyn:
Ni châf fi fyned at vn câr,
yr wyf mewn carchar rhydyn.
[verse 9] Y mae fy ngolwg (gan dy lîd)
mewn gofid o fawr gystydd.
Duw llefais arnad yn fy mraw.
gan godi'nwylaw beunydd.
[verse 10] Ai i'r meirw dangosi wyrth?
a ddônt i'th byrth i'th foli?
[verse 11] A draethir dy fawl yn y bêdd,
a'th lân wirionedd heini?
[verse 12] Ai mewn tywyll y mae dy râd?
a'th iowndeb yngwlâd angof?
[verse 13] Fal hyn (Duw) llefais arnat ti,
ô clŷw fy'ngweddi etto.
[verse 14] Pam (O f' Arglwydd a'm Duw) i'm rhaid
y rhoi f' enaid ar wrthod?
Ac y cuddi dy wyneb-prŷd?
fynghoel i gŷd sŷdd ynod.
[verse 15] Truan ymron marwolaeth ŵyf,
mewn trymglwyf o'm ieuenctyd:
A'th ofni bum yn nychbeth gwael,
gan ammau cael mo'r iechyd.
[verse 19] Dy ddîg a lifodd drosof fi,
d'ofn sŷdd i'm torri'n efrydd,
Fel deifr y daethant yn fy nghyloh,
do, do, o'm hamgylch beunydd.
[verse 17] Ymhell oddiwrthyf rhoist bôb câr,
pôb cyfaill hygar heibio,
A'm holl gydnabod a fu gynt,
yr ydynt yn ymguddio.