Llyfr y Psalmau,: wedi eu cyfieithu, a'u cyfansoddi ar fefur cerdd, yn gymraeg. / Drwy waith Edmund Prys archdiacon Merionydd.

About this Item

Title
Llyfr y Psalmau,: wedi eu cyfieithu, a'u cyfansoddi ar fefur cerdd, yn gymraeg. / Drwy waith Edmund Prys archdiacon Merionydd.
Author
Prys, Edmund, 1544-1623.
Publication
Argraphwyd yng Haerludd :: Dros Thomas Jones. Ag ar werth drosto ef gan Mr. Charles Beard ..., a Mr. John Marsh ... yn Llundain,
1687.
Rights/Permissions

To the extent possible under law, the Text Creation Partnership has waived all copyright and related or neighboring rights to this keyboarded and encoded edition of the work described above, according to the terms of the CC0 1.0 Public Domain Dedication (http://creativecommons.org/publicdomain/zero/1.0/). This waiver does not extend to any page images or other supplementary files associated with this work, which may be protected by copyright or other license restrictions. Please go to http://www.textcreationpartnership.org/ for more information.

Subject terms
Psalters.
Bible. -- O.T.
Link to this Item
http://name.umdl.umich.edu/A76681.0001.001
Cite this Item
"Llyfr y Psalmau,: wedi eu cyfieithu, a'u cyfansoddi ar fefur cerdd, yn gymraeg. / Drwy waith Edmund Prys archdiacon Merionydd." In the digital collection Early English Books Online 2. https://name.umdl.umich.edu/A76681.0001.001. University of Michigan Library Digital Collections. Accessed June 12, 2024.

Pages

PSAL. LXXXVIII.

O Dduw fy Iechyd, nôs a dŷdd mae 'ngweddi 'n vfydd arnad, [verse 2] Gostwng dy glust, ô Arglwydd nêf, a doed fy llêf hyd attad. [verse 3] Can's mae fy enaid mewn dull caeth, a'm heinioes aeth i'r beddrod: [verse 4] Fel gŵr marw y rhifwyd fi, a'm nerth oedd wedi darfod.
[verse 5] Mor farw a rhai wedi eu llâdd, a'i taflu 'nghlâdd mewn angof, A laddyt di mor siŵr a hyn, na bai bŷth honyn atgof. [verse 6] Gosodaist fi mewn dyfnder trŵch, ac mewn tywyllwch eithaf, [verse 7] Rhoist bŵys dy ddîg ar y corph mau, a'th holl fôr-donnau arnaf.
[verse 8] Pellheist fy holl gydnabod dâ, 'rwyf yn ffieidd-dra iddyn: Ni châf fi fyned at vn câr, yr wyf mewn carchar rhydyn. [verse 9] Y mae fy ngolwg (gan dy lîd) mewn gofid o fawr gystydd. Duw llefais arnad yn fy mraw. gan godi'nwylaw beunydd.
[verse 10] Ai i'r meirw dangosi wyrth? a ddônt i'th byrth i'th foli? [verse 11] A draethir dy fawl yn y bêdd, a'th lân wirionedd heini? [verse 12] Ai mewn tywyll y mae dy râd? a'th iowndeb yngwlâd angof? [verse 13] Fal hyn (Duw) llefais arnat ti, ô clŷw fy'ngweddi etto.
[verse 14] Pam (O f' Arglwydd a'm Duw) i'm rhaid y rhoi f' enaid ar wrthod? Ac y cuddi dy wyneb-prŷd? fynghoel i gŷd sŷdd ynod. [verse 15] Truan ymron marwolaeth ŵyf, mewn trymglwyf o'm ieuenctyd: A'th ofni bum yn nychbeth gwael, gan ammau cael mo'r iechyd.
[verse 19] Dy ddîg a lifodd drosof fi, d'ofn sŷdd i'm torri'n efrydd, Fel deifr y daethant yn fy nghyloh, do, do, o'm hamgylch beunydd. [verse 17] Ymhell oddiwrthyf rhoist bôb câr, pôb cyfaill hygar heibio, A'm holl gydnabod a fu gynt, yr ydynt yn ymguddio.
Do you have questions about this content? Need to report a problem? Please contact us.