PSALM. LXXXVII.
SAilfeini hon (sêf Sion) sŷdd,
ar gyssegr fynydd vcho':
[verse 2] Ac ar dy byrth rhoes Duw ei serch,
vwch pôb trig-lannerch Iago.
[verse 3] O ddinas Duw, preswylfa'r Iôn,
mawr ydyw'r sôn am danad:
A gogoneddus air yt'sŷdd,
vwch trigfennydd yr holl-wlad.
[verse 4] Rahab, Babel, a Phalestin,
a Thirus flin, a'r Mwriaid,
A fu i'th blant elynton gynt,
mae rhai o honynt vnblaid.
[verse 5] Ond dwedir hyn am Sion bêr,
fo ânwyd llawer ynthi,
Nid ymbell vn: can's succwr dâ
yw Duw goruchaf iddi.
[verse 6] Fe rŷdd yr Arglwydd yn ei rif,
y nêb cyfrif hono:
Efe a esyd hyn ar lêd
sêf, Hwn a aned yno.
[verse 7] Cantor tafod, a cherddor tant,
pôb rhai yt' canant fawr-glôd:
A thrwy lawenydd mae'n parhâu,
fy holl ffynhonnau ynod.