Troesant eu cefnau yn y gâd,
ymroi a dadynylu.
[verse 10] Cyfammod Duw a wrthodent.
ni rodient yn ei Gyfraith,
[verse 11] Anghofio'i wyrth a welsent gynt.
a'i ddeddfau oeddynt berffaith.
[verse 12] Yn nhîr yr Aipht, ym maes Zoan,
gwnaeth Duw gyflafan fwyfwy:
[verse 13] Rhoi dwfr y môr yn ddau dwrr crŷch
a'r llawr yn sŷch i drammwy.
[verse 14] Y dŷdd mewn niwl, y nôs a thân,
tywysai'n lân ei bobloe id:
[verse 15] Holldi'r creigiau a'i troi'n llynniau,
a llenwi ei lu a dyfroedd.
[verse 16] Er tynnu dwfr o'r garreg Iâs,
er llithro'n loywlad-ffrydau:
[verse 17] Yn yr anialwch digient Dduw,
chwanegent amryw feiau.
[verse 18] Yn y diffaethwch profent Dduw,
oes fŵyd i fŷw? meddylient:
[verse 19] A all Duw gael i'n ymma fŵyd
mewn cyfryw lochwyd? dwedont.
[verse 20] Er taro'r graig a rhedeg dŵr
yn ffrydau cyflwr diball:
All ef roi i'n fara a chîg,
i'n cadw yn ddiddig ddiwall?
[verse 21] Pan glybu Duw yr araith hon,
fel tân yn wreichion nynnodd,
Yn lago ac yn Israel,
gan lìd yn vchel digiodd.
[verse 22] A'i ddig oedd am na chredent hwy,
i Dduw a'i fywiol fowredd,
Ac na welent pa iechyd oedd
yn ei weith edoedd rhyfedd.
[verse 23] Gorchymmyn wybren, a'i gwarhâu,
egoryd drysau'r nefoedd:
[verse 24] A Manna 'n fŵyd, fel gwenith nêf,
a lawiodd êfiw luoedd.
[verse 25] Rhoi i ddŷn gael rhŷw luniaeth dâ
sêf bara yr Angylion:
[verse 26] Gyrrurhyd wybron ddwyrain-wynt,
gyda'r deheuwynt nerthlon.
[verse 27] Fel y llŵch y rhoes gîg iw hel,
ac adar fel y tywod:
[verse 28] Ynghylch eu gwersyll a'i trigfŷdd,
y glawiai beunydd gawod.
[verse 29] Bwyta digon o wlêdd ddiwael,
a chael eu bwyd dymunol:
[verse 30] Ac heb ommedd dym ar eu blŷs,
nac mo'•• hewyllys cnawdol.
[verse 31] A'i tameidiau hwy iw safnau,
(••s ofnwn y Goruchaf:)
Yn ••srael lladdodd iw ddig
wyr etholedig brasaf.
[verse 32] Er hyn pechent, ac ni chredent,
iw iâch radau rhyfedd:
[verse 33] Treuliodd Duw eu hoes hwy am hyn,
mewn dychryn ac oferedd.
[verse 34] Tra fyddai Duw yn eu llâdd hwy,
os ceisient dramwy atto:
Os doent drwy hiraeth at ei râs,
yn forau glâs iw geisio.
[verse 35] Os cofient fôd Duw iw holl hynt,
graig iddynt a gwaredydd:
[verse 36] (Er ceisio siommi Duw 'n y daith,
â'u gweiniaith. ac â'u celwydd:
[verse 37] Er nad oedd eu calon yn iawn,
na ffyddlawn iw gyfammod:)
[verse 38] Er hyn trugarhaei Duw o'r nêf,
a'i nodded ef oedd barod.
Rhag eu difa, o'i lîd y troes,
ac ni chyffroes iw hartaith:
[verse 39] Cofiodd ddŷn, os marw a wnai,
nâs gallai ddychwel eilwaith.
[verse 40] Pa sawl gwaith y cyffroesant hwy
wrth fyned trwy'r anialwch?
Gan ddigio Duw a'i lwyr dristhâu,
ynghreigiau y diffeithwch.
[verse 41] Troesant, profasant Dduw â'u chwant,
gan demptio Sanct yr Israel?
[verse 42] Anghofio eu cadw hwynt fal hyn,
rhag cael o'i casddŷn afael.
[verse 43] Rhoesai'n yr Aipht arwydd o'i râs,
a'i wyrth yn ninas Zoan.
[verse 44] Y môdd y troes eu dwfr yn waed,
ni chaed dim glan-ddwfr allan.
[verse 45] Rhoes Duw yngwlâd y r Aipht iw plau,
waed, gwybed, llau, a llyffaint:
[verse 46] Lindys, locust, i ddifa'u ffrwyth,
a chenllysg lwyth, a mall-haint.
[verse 47] Distrywiodd Dûw eu hŷd, gwellt, gwŷdd
[verse 48] Eu coedydd, a'i han'feiliaid:
A chenllysg cossair, mêllt a roes,
bu wrth eu heinioes danbaid.
[verse 49] Rhoes arnynt bŵys ei lîd, a'i fâr,
ac ing anghreugar digllon:
Ffrwyth ei lidiowgrwydd ef, a'i ŵg,
anfonodd ddrŵg angylion.
[verse 50] Rhŷw ffordd a hon iw lîd a droes
heb ludd iw heinioes angau,
Ond dwyn eu bywyd hwy drwy haint,
yn ei ddigofaint yntau.
[verse 51] Yna tarawodd vn Duw Nâf
y plant cyntaf anedig:
Yn nhîr yr Aipht, a phebyll Cam,
sef am ei fôd yn llawnddig.
[verse 52] Ond (gan droi at ei bobl yn hawdd,)
foi twysawdd drwy'r anialfan,