PSALM. LXXV.
CLodforwn di (dragwyddol Dduw)
a'th enw yw yn agos.
Maint yw dy enw a'th nerth i'th hynt
dy wrthiau ŷnt iw ddangos.
[verse 2] Dwedaist, pan dderbyniwyf y llu
mi rôf farn gu ac vnion:
[verse 3] Fel y nerthais sylfeini'r bŷd,
oedd rŷdd, a'i gŷd-trigolion.
Minnau a ddwedais hyn o'm brŷd,
[verse 4] wrth y rhai ynfyd, peidiwch,
Wrth annuwiolion poethion chwyrn,
eich mebcyrn na dderchefwch.
[verse 5] O'ch, na dderchefwch chwi mo'ch cyrn
na figlwch rychwyrn ragdal,
Ac na ddwedwch chwi yn warr-sŷth
nid rhaid yn' fŷth mo'r gofal.
[verse 6] O herwydd, nid o'r dwyrain draw
i ddŷn y daw derchafiad,
Nid o'r gorllewin, na'r deau,
y daw i chwithau godiad:
[verse 7] Can's ar law Duw y mae y farn,
na fid gŵr cadarn rygry,
Gostwng heddyw y naill heb pall,
a chodi'r llall y fory.
[verse 8] Can's yn llaw'r Arglwydd phiol sŷdd
cymysgwin hyd-wŷdd ynthi,
Tywalldodd hwn; drwg ddynion bŷd,
yfant i gŷd o honi.
[verse 9] Mynegaf finnau, ac i'm côf,
ei gerdd (Duw Iagof) canaf:
Torraf gyrn yr annuwiolion,
a phen y cyfion codaf.