PSALM. LXVI.
YN Nuw ymlawenhewch i gŷd,
yr hollfyd, a datcenwch
[verse 2] Ogoniant ei enw hyd y nêf,
a'i foliant grêf a draethwch.
[verse 3] Wrth Dduw dwedwch fo bair dy law
i'th elyn oerfraw anfad,
Rhag amled yw nerth y llaw hon
â dy gaseion danad.
[verse 4] Felly 'r holl fŷd i gŷd a'i rhî
i ti a ymostyngant,
Canant ŷt' fawl, ac ânt hyd lawr,
i'th enw mawr y canant.
[verse 5] O dowch, edrychwch ofnus yw
gweithredoedd ein Duw cyfion,
Ofn ei weithredoedd a rŷdd ddŷsg
ymŷsg hôll feibion dynion.
[verse 6] Fo droes y môr côch yn dîr sŷch,
ai wŷr yn droed-sych drwyddo,
A thrwy yr afon: llawen fu,
ei bôd heb wlychu yno.
[verse 7] Ef bŷth bŷdd lywydd cadarn gwych,
a'i olwg edrych beunydd
At y cenhedloedd drwy 'r holl fŷd,
ni chyfyd rhai anufydd.
[verse 8] O bobloedd molwch Dduw ar gais,
a moeswch lais ei foliant;
[verse 9] Hwn sy'n dal bywyd yn y gwaed,
a ddeil ein traed na lithrant.
[verse 10] O Dduw, profaist a choethaist ni
vn wêdd a choethi arian.
[verse 11] Yn gaeth y dygaist ni i'th rwyd,
ein cyrph a wasgwyd weithian.
[verse 12] Aethom drwy ddwfr a thân yn gaeth,
bu rai'n marchogaeth arnom;
O peraist hyn: ni bu chwaith hîr,
i ddiwall dîr y daethom.
[verse 13] Ag offrwm poeth i'th dŷ yr âf,
talaf fy addunedau,
[verse 14] Y rhai mewn cyfwng, rhag mwy trais,
addewais â'm gwefusau.
[verse 15] Poeth ebyrth breifion ŷt a rôf,
aroglaeth côf cyfammod,
Ychen, hyrdd, offrymmv a wnâf,
ac etto rhoddaf fychod.
[verse 16] O dowch yn nês, a gwrandewch chwi
sy'n ofni Duw tragfythoes,
Mi a fynegaf i chwi'n ffraeth
pa lês a wnaeth i'm heinioes.
[verse 17] Llefais i arno â'm genau,
a'r tafod mau a'i molâwdd;
[verse 18] Pe troeswn fy nghalon at fai,
Duw a'm gwrandawsai'n anawdd:
[verse 19] Diau Duw a'm clybu yn hawdd,
gwrandawawdd ar fy ngweddi,
Bendigaid yw: fo a'm clywawdd,
ni throes mo'i nawdd oddiwrthi.