PSALM. LXV.
ITi (O Dduw) y gweddai mawl
yn y sancteiddiawl Sion,
[verse 1] ti y telir drwy holl grêd,
bôb gwîr adduned calon.
[verse 2] Pawb sŷdd yn pwyso attad ti,
a wrendy weddi dostur,
Ac attad ti y daw pôb cnawd,
er mwyn gollyngdawd llafur.
[verse 3] Pethau trowsion, a geiriau mawr,
myfi i'r llawr bwriasant,
Ond tydi Dduw rhoi am gamwedd
drugaredd a maddeuant.
[verse 4] Dy etholedig dedwydd yw,
caiff nesnes fyw i'th babell,
Trîg i'th gynteddau, ac i'th lŷs,
a'th sanctaidd weddus gangell.
[verse 5] Duw'n ceidwad attebi i ni
o'th ofni i'th gyfiownedd,
Hôll obaith ŵyd drwy'r ddaiar hon,
a'r môr cynhyrfdon rhyfedd.
[verse 6] Hwn a fiecrhâ bôb vchel fryn
â'i wregys yn gadernyd,
[verse 7] Hwn a ostega'r môr, a'r don,
a rhuad eigion enbyd.
[verse 8] A holl bresŵylwyr eithaf bŷd
sy'n ofni' gŷd d'arwyddion,
Iti gan forau, a chan hŵyr,
y canant laswyr ffyddion.
[verse 9] Dyfrhâu y ddaiar sêch yr ŵyd,
afon Duw llanwyd drosti,
Darperaist lifddyfr rhyd ei l'awr
iw thramawr gyfoethogi.