Llyfr y Psalmau,: wedi eu cyfieithu, a'u cyfansoddi ar fefur cerdd, yn gymraeg. / Drwy waith Edmund Prys archdiacon Merionydd.

About this Item

Title
Llyfr y Psalmau,: wedi eu cyfieithu, a'u cyfansoddi ar fefur cerdd, yn gymraeg. / Drwy waith Edmund Prys archdiacon Merionydd.
Author
Prys, Edmund, 1544-1623.
Publication
Argraphwyd yng Haerludd :: Dros Thomas Jones. Ag ar werth drosto ef gan Mr. Charles Beard ..., a Mr. John Marsh ... yn Llundain,
1687.
Rights/Permissions

To the extent possible under law, the Text Creation Partnership has waived all copyright and related or neighboring rights to this keyboarded and encoded edition of the work described above, according to the terms of the CC0 1.0 Public Domain Dedication (http://creativecommons.org/publicdomain/zero/1.0/). This waiver does not extend to any page images or other supplementary files associated with this work, which may be protected by copyright or other license restrictions. Please go to http://www.textcreationpartnership.org/ for more information.

Subject terms
Psalters.
Bible. -- O.T.
Link to this Item
http://name.umdl.umich.edu/A76681.0001.001
Cite this Item
"Llyfr y Psalmau,: wedi eu cyfieithu, a'u cyfansoddi ar fefur cerdd, yn gymraeg. / Drwy waith Edmund Prys archdiacon Merionydd." In the digital collection Early English Books Online 2. https://name.umdl.umich.edu/A76681.0001.001. University of Michigan Library Digital Collections. Accessed June 13, 2024.

Pages

PSALM. LXV.

ITi (O Dduw) y gweddai mawl yn y sancteiddiawl Sion, [verse 1] ti y telir drwy holl grêd, bôb gwîr adduned calon. [verse 2] Pawb sŷdd yn pwyso attad ti, a wrendy weddi dostur, Ac attad ti y daw pôb cnawd, er mwyn gollyngdawd llafur.
[verse 3] Pethau trowsion, a geiriau mawr, myfi i'r llawr bwriasant, Ond tydi Dduw rhoi am gamwedd drugaredd a maddeuant. [verse 4] Dy etholedig dedwydd yw, caiff nesnes fyw i'th babell, Trîg i'th gynteddau, ac i'th lŷs, a'th sanctaidd weddus gangell.
[verse 5] Duw'n ceidwad attebi i ni o'th ofni i'th gyfiownedd, Hôll obaith ŵyd drwy'r ddaiar hon, a'r môr cynhyrfdon rhyfedd. [verse 6] Hwn a fiecrhâ bôb vchel fryn â'i wregys yn gadernyd, [verse 7] Hwn a ostega'r môr, a'r don, a rhuad eigion enbyd.
[verse 8] A holl bresŵylwyr eithaf bŷd sy'n ofni' gŷd d'arwyddion, Iti gan forau, a chan hŵyr, y canant laswyr ffyddion. [verse 9] Dyfrhâu y ddaiar sêch yr ŵyd, afon Duw llanwyd drosti, Darperaist lifddyfr rhyd ei l'awr iw thramawr gyfoethogi.

Page [unnumbered]

[verse 10] Pôb rhŷch yr wyd yn ei ddyfrhâu. a'i chwysau'r wyd iw gostwng: A'i rhoi ym mwyd mewn cafod wlîth, iw chnŵd rhoi fendith deilwng. [verse 11] Coroni 'r ydwyd ti fal hyn y flwyddyn a'th ddaioni, Y ffordd hyn a'r môdd (Duw fy nêr) diferaist frasder arni.
[verse 12] Ef a ddifera ffrwyth dy serch ar bôb rhyw lannerch ddyrys, Pôb mynydd sŷch yn vchder gwlâd o ffrwyth dy râd y dengys. [verse 13] Drwy dy fendith y gwastad dir a guddir ôll â defaid, Crechwennant, canant bawb ynghŷd, a'r wlâd ag ŷd ei llonaid.
Do you have questions about this content? Need to report a problem? Please contact us.