PSALM. LXIV.
O Arglwydd Dduw, erglyw fy llêf,
a chlŷw, o'r nêf fi'n erfyn:
O Dduw cadw fy einioes i
y sydd yn ofni'r gelyn.
[verse 2] A chuddia fi dros eunyd bâch
rhag cyfrinach y rhai drŵg:
A rhag terfysg y rhai sŷ'n gwau,
i wneuthur cammau amlwg.
[verse 3] Hogi tafodau fel y clêdd,
a dwedyd bustledd ddigon,
Saethant ergydion i'm sarhâu,
a'r rhai'n oedd eiriau chwerwon.
[verse 4] I faethu'n ddirgel bigau dûr,
yn erbyn pûr ei galon,
Yn ddisymmwth heb ofni nêb,
a thrwy gasineb creulon.
[verse 5] Ymgryfnânt hwy yngwaith y fall,
gan guddio'n gall eu rhŵydau,
Yna y dwedant pwy a'n gwêl
yn bwrw dirgel faglau?
[verse 6] Gan chwilio dyfnder drygau trŵch,
o fewn dirgelwch eigion.
A phawb iw gilydd yn rhoi nôd
o geuedd gwaelod calon.
[verse 7] Ond y mae Duw a'i saeth ynghûdd,
rhŷdd yn ddirybudd ergyd,
Ef a dâl adref yr hawl hon,
yn ddyfn archollion gwaedlyd.
[verse 8] Gwaith y tafodau drŵg lle bô,
a fynn lwyr syrthio arnynt,
Pôb dŷn a'i gwêl a dybia'n well
gilio ymhell oddiwrthynt.
[verse 9] Yna y dywaid pawb a'i gwêl,
gwaith y Goruchel yw hyn,
Can's felly y deallant hwy
y cosbir fwyfwy'r gelyn.
[verse 10] Ond yn yr Arglwydd llawenhî,
ac y gobeithia'r cyfion,
A gorfoledda yntho'n iawn
pôb dŷn ag vniawn galon.