PSALM. LX.
O Dduw, dydi a'n gwrthodaist,
ar wasgar gyrraist ymaith:
O sorraist wrthym yn ddi-gêl,
tro attom, dychwel eilwaith.
[verse 2] Dycrynaist di y ddaiar gron
a holltaist hon yn ddrylliau,
Can's o'th lîd ti siglo y mae,
iachâ, a chae ei briwiau.
[verse 3] Dangosaist i'th elynion di
o bwys caledi ormod,
A'r ddiod a roist yn eu mîn,
oedd megis gwîn madrondod.
[verse 4] Rhoddaist faner, er hyn i gŷd,
i bawb o'r bŷd a'th ofnant,
I faneru drwy dy air gwîr,
dros lu y tîr lle trigant:
[verse 5] Fel y gwareder drwy lân hwyl,
bôb rhai o'th anwyl ddynion:
O achub hwynt âth law ddeau,
a gwrando finnau 'n ffyddlon.
[verse 6] Yn ei sancteiddrwydd dwedodd Duw
llawen yw fy'nghyfammod,
Mi a rannaf Sichem rhyd y glyn,
mesuraf ddyffryn Succod.
[verse 7] Myfi biau y ddwy dref-tâd,
sef Gilead, a Manasse,