PSALM. LIX.
FY Nuw gwareda fi rhac brâd
a rhac twyll fwriad gelyn,
Derbyn di drosof rhac y rhai
a godai yn fy erbyn.
[verse 2] Ac ymddiffyn fi yn bybyr
oddiwrth weithredwyr camwedd,
Achub fyfi rhac câs y bŷd,
a rhac gwŷr gwaedlyd hygledd.
[verse 3] Ac wele, maent hwy i'm cynllwyn,
amcanent ddwyn fy mywyd,
Nid ar fy mai yr haeddais hyn,
ond tynder gelyn gwaedlyd.
[verse 4] Duw rhedent hwy yn barod iawn,
a dim ni wnawn iw herbyn:
Edrych dithau, fy Arglwydd rhêd,
a thyred i'm hymddiffyn.
[verse 5] Ti Dduw y llu, Duw Israel,
ô deffro, gwêl enwiredd,
I 'r cenhedloedd na âd di'n rhâd.
lle gwnant drwy frâd e•• trawsedd.
[verse 6] Maent hwy yn arfer gydâ'r hwyr,
o'mdroi ar ŵyr o bôb parth,
A thrwy y ddinas clywch eu sŵn,
vn wêdd a'r cŵn yn cyfarth.
[verse 7] Wele maent a thafodau rhŷdd,
awch clêdd a fŷdd iw genau,
Pwy meddant hwy all glywed hyn,
ac a wna i'n herbyn ninnau?
[verse 8] Ond tydi fy Arglwydd a'm Duw,
a'i gwêl, ai clyw, a'i gwatwar,
Am ben eu gwaith y chwerddi di
y cenhedlaethi twyllgar.
[verse 9] Ti a attebi ei nerth êf,
a'th law grêf a'm hamddiffŷn?
[verse 10] Duw a'm rhagflaena innau chwyp,
câf weled trip i'm gelyn.
[verse 11] Na lâdd hwynt rhag i'm pobloedd î
anghofi dy weithredoedd:
Gwasgar, gostwng hwy yn dy nerth,
Duw darian prydferth lluoedd.
[verse 12] Am bechod eu tafodau hwy,
a'i geiriau, mwyfwy balchedd,
Telir iddynt, ni rônt air têg
ond celwydd. rhêg, a choegedd.
[verse 13] Duw difa, difa hwynt i'th lîd,
a bŷth na fîd vn mwyach,
Gwybyddant, mai Duw Iago sŷdd
drwy 'r bŷd yn llywydd hyttrach.
[verse 14] Maent hwy yn arfer gydâ'r hwyr
o'mdroi yn llwyr o bobparth,
A thrwy y ddinas clywch ei sŵn,
vn wêdd a chŵn yn cyfarth.
[verse 15] I gael ymborth crwydro a wnânt,
ac oni chânt eu digon,
Nes cael byddant ar hyd y nôs
yn aros dan ymryson.
[verse 16] Minnau a ganaf o'r nerth tau,
a'th nawdd yn forau molaf:
Nerth ym' a nawdd buost (ô Nêr)
pan fu gorthrymder arnaf.
[verse 7] I ti canaf, ô Dduw fy nerth,
a'm hymadferth rymusol,
Sêf tydi yw fy Nuw, fy Nâf,
fy'nhŵr, fy'noddfa rasol.