Llyfr y Psalmau,: wedi eu cyfieithu, a'u cyfansoddi ar fefur cerdd, yn gymraeg. / Drwy waith Edmund Prys archdiacon Merionydd.

About this Item

Title
Llyfr y Psalmau,: wedi eu cyfieithu, a'u cyfansoddi ar fefur cerdd, yn gymraeg. / Drwy waith Edmund Prys archdiacon Merionydd.
Author
Prys, Edmund, 1544-1623.
Publication
Argraphwyd yng Haerludd :: Dros Thomas Jones. Ag ar werth drosto ef gan Mr. Charles Beard ..., a Mr. John Marsh ... yn Llundain,
1687.
Rights/Permissions

To the extent possible under law, the Text Creation Partnership has waived all copyright and related or neighboring rights to this keyboarded and encoded edition of the work described above, according to the terms of the CC0 1.0 Public Domain Dedication (http://creativecommons.org/publicdomain/zero/1.0/). This waiver does not extend to any page images or other supplementary files associated with this work, which may be protected by copyright or other license restrictions. Please go to http://www.textcreationpartnership.org/ for more information.

Subject terms
Psalters.
Bible. -- O.T.
Link to this Item
http://name.umdl.umich.edu/A76681.0001.001
Cite this Item
"Llyfr y Psalmau,: wedi eu cyfieithu, a'u cyfansoddi ar fefur cerdd, yn gymraeg. / Drwy waith Edmund Prys archdiacon Merionydd." In the digital collection Early English Books Online 2. https://name.umdl.umich.edu/A76681.0001.001. University of Michigan Library Digital Collections. Accessed June 12, 2024.

Pages

PSALM. LIX.

FY Nuw gwareda fi rhac brâd a rhac twyll fwriad gelyn, Derbyn di drosof rhac y rhai a godai yn fy erbyn. [verse 2] Ac ymddiffyn fi yn bybyr oddiwrth weithredwyr camwedd, Achub fyfi rhac câs y bŷd, a rhac gwŷr gwaedlyd hygledd.
[verse 3] Ac wele, maent hwy i'm cynllwyn, amcanent ddwyn fy mywyd, Nid ar fy mai yr haeddais hyn, ond tynder gelyn gwaedlyd. [verse 4] Duw rhedent hwy yn barod iawn, a dim ni wnawn iw herbyn: Edrych dithau, fy Arglwydd rhêd, a thyred i'm hymddiffyn.
[verse 5] Ti Dduw y llu, Duw Israel, ô deffro, gwêl enwiredd, I 'r cenhedloedd na âd di'n rhâd. lle gwnant drwy frâd e trawsedd. [verse 6] Maent hwy yn arfer gydâ'r hwyr, o'mdroi ar ŵyr o bôb parth, A thrwy y ddinas clywch eu sŵn, vn wêdd a'r cŵn yn cyfarth.
[verse 7] Wele maent a thafodau rhŷdd, awch clêdd a fŷdd iw genau, Pwy meddant hwy all glywed hyn, ac a wna i'n herbyn ninnau? [verse 8] Ond tydi fy Arglwydd a'm Duw, a'i gwêl, ai clyw, a'i gwatwar, Am ben eu gwaith y chwerddi di y cenhedlaethi twyllgar.
[verse 9] Ti a attebi ei nerth êf, a'th law grêf a'm hamddiffŷn? [verse 10] Duw a'm rhagflaena innau chwyp, câf weled trip i'm gelyn. [verse 11] Na lâdd hwynt rhag i'm pobloedd î anghofi dy weithredoedd: Gwasgar, gostwng hwy yn dy nerth, Duw darian prydferth lluoedd.
[verse 12] Am bechod eu tafodau hwy, a'i geiriau, mwyfwy balchedd, Telir iddynt, ni rônt air têg ond celwydd. rhêg, a choegedd. [verse 13] Duw difa, difa hwynt i'th lîd, a bŷth na fîd vn mwyach, Gwybyddant, mai Duw Iago sŷdd drwy 'r bŷd yn llywydd hyttrach.
[verse 14] Maent hwy yn arfer gydâ'r hwyr o'mdroi yn llwyr o bobparth, A thrwy y ddinas clywch ei sŵn, vn wêdd a chŵn yn cyfarth. [verse 15] I gael ymborth crwydro a wnânt, ac oni chânt eu digon, Nes cael byddant ar hyd y nôs yn aros dan ymryson.
[verse 16] Minnau a ganaf o'r nerth tau, a'th nawdd yn forau molaf: Nerth ym' a nawdd buost (ô Nêr) pan fu gorthrymder arnaf. [verse 7] I ti canaf, ô Dduw fy nerth, a'm hymadferth rymusol, Sêf tydi yw fy Nuw, fy Nâf, fy'nhŵr, fy'noddfa rasol.
Do you have questions about this content? Need to report a problem? Please contact us.