PSALM. LVIII.
A l'r uniondeb (ô bobloedd wych)
yr ydych yn ei ddwedyd?
A ydych chwi, ô blant dynion,
yn barnu 'r vnion hefyd?
[verse 2] Hyttrach malais sy yn eich bron
ac ystryw calon dwyllgar:
A gwaith eich dwylo trowsder blin,
tra foch yn trin y ddaiar.
[verse 3] Y rhai annuwiol aent ar gam,
o groth eu mam newidient,
Ac ar gyfeiliorn mynd o'r bru,
a chelwydd fu a draethent.
[verse 4] Vn wedd a gwenwyn y sarph yw
y gwenwyn bŷw sydd ynddyn:
Neu 'r neidr fyddar yn trofau
dan gau ei chlustiau cyndyn:
[verse 5] Yr hon ni wrendŷ ddim ar lais
na'r wers a gais y rhinwyr,
Nac vn gyfaredd a'r a wna
y cyfarwydda'o sŵyn-wyr.
[verse 6] Duw, torr eu dannedd yn eu safn,
diwreiddia'r llafn o dafod:
Duw dryllia'r bonau, a gwna'n donn
bôb grûdd i'r c'nawon llewod.
[verse 7] Todder hwynt fel dŵr ar y tîr,
felly diflennir hwythau:
Os mewn bwa rhoesant saeth gron,
boed torri hon yn ddrylliau.
[verse 8] Boent hwy mor ddiffrwyth, ac mor hawdd
a malwen dawdd y todder: