PSAL. LI.
TRugaredd dôd i mi,
Duw o'th ddaioni tyner;
Ymaith tyn fy enwiredd mau
o'th drugareddau lawer.
[verse 2] A golch fi yn llwyr ddwys
oddiwrth fawr bwys fy meiau:
Fy Arglwydd, gwna'n bur lân fyfi,
rhag brynti fy'nghamweddau.
[verse 3] Can's adwen fŷ nghamwedd,
a'm brwnt anwiredd yssig,
Sef bennydd maent gar fy mron î.
[verse 4] Yn d'erbyn di yn vnig,
Y gwneuthym hŷn oedd ddrwg,
yn dy lân olwg distrych,
Fel i'th gyfiowner yn ôl d'air,
yn burair pan y bernych.
[verse 5] Mewn pechod lluniwyd fi,
ac mewn drygioni dygas,
Felly yr ŵyf o grôth fy mam
yn byw bob cam yn atgas.
[verse 6] Ac wele ceri'r gwir
o fewn y gywir galon:
Am hyn dysgaist ddoethineb iach
y'm o'th gyfrinuch ffyddlon.
[verse 7] Ag Isop golch fi'n lân.
ni byddaf aflan mwyach,
Byddafi o'm golchi mal hyn,
fel eira gwyn neu wynnach.
[verse 8] Pâr i mi weled hêdd,
go foledd a llawenydd,
I adnewyddu f'esgyrn i
a ddrylliaist di â cherydd.
[verse 9] O cuddia d'wyneb-prŷd
rhag fy mhechodau i gyd,
Fy anwireddau tyn eu lliw,
o Arglwydd bid wiw gennyd.
[verse 10] Duw, crea galon bûr
dôd i mi gysur beunydd,
I fyw yn well tra fwy 'n y bŷd,
dôd ynof yspryd newydd.
[verse 11] O Dduw na ddyro chwaith,
fi ymmaith o'th olygon,