[verse 7] Clyw di fy mhobl; traethaf yn ffraeth
dystiolaeth yn dy erbyn,
Dithau Israel: ac iawn yw,
Duw, sef dy Dduw a'th ofyn.
[verse 8] Ni chei di am yr ebyrth tau,
na'th boeth offrymau gerydd;
Nac am na baent hwy gar fy mron,
y cyfryw roddion beunyd.
[verse 9] Ni chymeraf o'th dŷ vn llô!
na hyfr a fô'n dy gorlan,
[verse 10] Mi biau'r da'n y maes sy'n gwau
ar fil o frynniau allan,
[verse 11] Pob aderyn erbyn ei ben.
a adwen ar y mynydd,
Pob dâ maesydd, y lle y maen,
y maent o'm blaen i beunŷdd.
[verse 12] Nid rhaid ym ddangos i ti hyn,
pe delai newyn arnaf,
Ac yn eiddo fi yr holl fyd,
a'i dda i gyd yn llownaf.
[verse 13] A'i cîg teirw fydd fy mwyd?
na thŷb: nid wŷd ond angall:
Ai gwaed hyfrod y niod fŷdd?
dysg ô newydd ddeall.
[verse 14] Dod dy oglud ar Dduw yn drwm,
a thâl yr offrwm pennaf;
Cân ei fawl ef: a dôd ar lêd
d'adduned i'r Goruchaf:
[verse 15] Galw arnaf yn dy ddŷdd blin,
yno cai fi'n waredydd:
Yna y ceni i mi glôd
am droi y rhôd mor ddedwydd.
[verse 16] Duw wrth yr enwir dywaid hyn:
ai 'ti perthyn fy neddfau?
Paham y cym'ri di, na'm clôd,
na'm hamod yn dy enau?
[verse 17] Sef, câs fu gennyt ti iawn ddysg,
ac addysg ni chymeraist,
A'm geriau i (fel araith ffôl)
i gyd o'th ôl a deflaist.
[verse 18] A phan welaist leidr rhedaist
a rhwydaist ran oddiwrtho:
Ac os gordderchwr brwnt aflân,
mynnaist ti gyfran gantho.
[verse 19] Gollyngaist di dy safn yn rhŷdd
yn efrydd ar ddrygioni,
A'th dafod a lithrai ym mhell
at ddichell a phôb gwegi.
[verse 20] Eisteddaist di, dwedaist ar gam
ar fab dy fam er enllib.
[verse 21] Pan wnaethost hyn, ni'th gosbais di,
a thybiaist fi'n gyffelyb.
[verse 22] Ond hwy na hyn tewi ni wnaf,
mi a'th geryddaf bellach,
Mi a ddangosaf dy holl ddrwg
o flaen dy olwg hayach.
[verse 23] Gwrandewch: a pheidiwch tra fo'ch byw
a gollwng Duw yn angof;
Pan ni bô nêb i'ch gwared chwi,
rhag ofn i mi eich rhwygo.
[verse 24] Yr hwn abertho i mi fawl
yw'r sawl a'm gogonedda.
I'r neb a drefno'i ffordd yn wiw
gwîr iechyd Duw a ddysgaf.