Llyfr y Psalmau,: wedi eu cyfieithu, a'u cyfansoddi ar fefur cerdd, yn gymraeg. / Drwy waith Edmund Prys archdiacon Merionydd.

About this Item

Title
Llyfr y Psalmau,: wedi eu cyfieithu, a'u cyfansoddi ar fefur cerdd, yn gymraeg. / Drwy waith Edmund Prys archdiacon Merionydd.
Author
Prys, Edmund, 1544-1623.
Publication
Argraphwyd yng Haerludd :: Dros Thomas Jones. Ag ar werth drosto ef gan Mr. Charles Beard ..., a Mr. John Marsh ... yn Llundain,
1687.
Rights/Permissions

To the extent possible under law, the Text Creation Partnership has waived all copyright and related or neighboring rights to this keyboarded and encoded edition of the work described above, according to the terms of the CC0 1.0 Public Domain Dedication (http://creativecommons.org/publicdomain/zero/1.0/). This waiver does not extend to any page images or other supplementary files associated with this work, which may be protected by copyright or other license restrictions. Please go to http://www.textcreationpartnership.org/ for more information.

Subject terms
Psalters.
Bible. -- O.T.
Link to this Item
http://name.umdl.umich.edu/A76681.0001.001
Cite this Item
"Llyfr y Psalmau,: wedi eu cyfieithu, a'u cyfansoddi ar fefur cerdd, yn gymraeg. / Drwy waith Edmund Prys archdiacon Merionydd." In the digital collection Early English Books Online 2. https://name.umdl.umich.edu/A76681.0001.001. University of Michigan Library Digital Collections. Accessed June 13, 2024.

Pages

PSAL, L.

DVw y duwiau, yr Arglwydd cû, gan lefaru â alwodd, O godiad haul hyd fachlud hwn, yr hollfyd crwn cyffrôodd. [verse 2] O fryn Sion y daeth Duw nâf, hon sydd berffeithiaf ddinas, Mewn tegwch a goleuni mawr, a llewyrch gwawr o'i gwmpas.
[verse 3] Doed rhagddo'n Duw, na fid fel mud, o'i flaen fflam danllud yssed, A mawr dymestloedd iw gylch êf, pan ddêl o nêf i wared. [verse 4] Geilw êf am y nefoedd frŷ, a'r ddaiar obry isom, I gael barnu ei bobloedd êf, fal hyn rhydd lêf am danom.
[verse 5] O cesglwch attaf fi fy Saint, y rhai drwy ryddfraint brydferth, A wnaethan ammod a myfi, a'i rhwymo hi drwy aberth. [verse 6] A phan ddangoso mintai nêf ei farnau êf yn union, Sef Duw fydd yn barnu ei hûn, yr vnic gûn sydd gyfion.

Page [unnumbered]

[verse 7] Clyw di fy mhobl; traethaf yn ffraeth dystiolaeth yn dy erbyn, Dithau Israel: ac iawn yw, Duw, sef dy Dduw a'th ofyn. [verse 8] Ni chei di am yr ebyrth tau, na'th boeth offrymau gerydd; Nac am na baent hwy gar fy mron, y cyfryw roddion beunyd.
[verse 9] Ni chymeraf o'th dŷ vn llô! na hyfr a fô'n dy gorlan, [verse 10] Mi biau'r da'n y maes sy'n gwau ar fil o frynniau allan, [verse 11] Pob aderyn erbyn ei ben. a adwen ar y mynydd, Pob dâ maesydd, y lle y maen, y maent o'm blaen i beunŷdd.
[verse 12] Nid rhaid ym ddangos i ti hyn, pe delai newyn arnaf, Ac yn eiddo fi yr holl fyd, a'i dda i gyd yn llownaf. [verse 13] A'i cîg teirw fydd fy mwyd? na thŷb: nid wŷd ond angall: Ai gwaed hyfrod y niod fŷdd? dysg ô newydd ddeall.
[verse 14] Dod dy oglud ar Dduw yn drwm, a thâl yr offrwm pennaf; Cân ei fawl ef: a dôd ar lêd d'adduned i'r Goruchaf: [verse 15] Galw arnaf yn dy ddŷdd blin, yno cai fi'n waredydd: Yna y ceni i mi glôd am droi y rhôd mor ddedwydd.
[verse 16] Duw wrth yr enwir dywaid hyn: ai 'ti perthyn fy neddfau? Paham y cym'ri di, na'm clôd, na'm hamod yn dy enau? [verse 17] Sef, câs fu gennyt ti iawn ddysg, ac addysg ni chymeraist, A'm geriau i (fel araith ffôl) i gyd o'th ôl a deflaist.
[verse 18] A phan welaist leidr rhedaist a rhwydaist ran oddiwrtho: Ac os gordderchwr brwnt aflân, mynnaist ti gyfran gantho. [verse 19] Gollyngaist di dy safn yn rhŷdd yn efrydd ar ddrygioni, A'th dafod a lithrai ym mhell at ddichell a phôb gwegi.
[verse 20] Eisteddaist di, dwedaist ar gam ar fab dy fam er enllib. [verse 21] Pan wnaethost hyn, ni'th gosbais di, a thybiaist fi'n gyffelyb. [verse 22] Ond hwy na hyn tewi ni wnaf, mi a'th geryddaf bellach, Mi a ddangosaf dy holl ddrwg o flaen dy olwg hayach.
[verse 23] Gwrandewch: a pheidiwch tra fo'ch byw a gollwng Duw yn angof; Pan ni bô nêb i'ch gwared chwi, rhag ofn i mi eich rhwygo. [verse 24] Yr hwn abertho i mi fawl yw'r sawl a'm gogonedda. I'r neb a drefno'i ffordd yn wiw gwîr iechyd Duw a ddysgaf.
Do you have questions about this content? Need to report a problem? Please contact us.