PSALM. XLII.
YR un wêdd ag y brêf yr hŷdd
am yr a fonydd dyfroedd:
Felly y mae fy hiraeth i
am danat ti Duw 'r nefoedd.
[verse 2] Fy enaid i sychedig yw,
am fy Nuw byw, a'i gariad:
Pa brŷd y dôf fi gar dy fron,
fy Nuw a'm cyfion ynad?
[verse 3] Fy nagrau oeddynt ddŷdd a nôs
yn fwyd ym', achos gofyn
Ym am fy Nuw bôb pen awr bâch,
ple mae fo bellach? meddyn,
[verse 4] O gofio hyn wrchyf fy hûn
fel tywallt ffun fy enioes:
Ynghŷd a theulu Duw yr awn,
be cawn fy meddwl eisoes.
Hyd at dŷ Dduw yn ystig iawn
yr awn dan ganu clodydd,
Fel tyrfa a fai'n cadw gŵyl.
hyn bum iw ddisgwyl beunydd.
[verse 5] Trwm wyd f' enaid o'm mewn: paham
y rhoi brudd lam ochenaid?
[verse 6] Disgwyl wrth Dduw, a doi gar bron
ei wyneb tirion cannaid.
[verse 7] Fy enaid o'm mewn pan so prŷdd,
a â yn rhŷdd o'th gofion,
A chofio yr Iorddonen iâch,
a'r mynydd bâch o Hermon,
[verse 8] Dyfnder îs dyfnderau y sŷdd,
ac ar eu gilydd galwant;
A dŵfr pôb ffrwd, pôb llîf, pôb ton,
hwy dros fy mron a aethant.
[verse 9] Fy Nâf a roes y dŷdd ym'hêdd,
a'r nôs gyfannedd ganu,
I ganmawl fy Nuw, hwn a roes
ym' einioes iw foliannu.
[verse 10] Paham im gedyt dros gôf cŷd?
Duw, wrthyd yr achwynaf:
Er gorthrymder y gelyn cam,
mewn galar pa'm y rhodiaf?
[verse 12] Trwy f' esgyrn taro cleddyf llym
mewn gwarthlid ym, oedd edliw
Ym 'om gelynion er fy'ngwae,
dy Dduw p'le mae fo heddiw?
[verse 13] Trwm wyd f enaid o'm mewn: paham
y rhoi brudd lam ochenaid?
[verse 14] Disgwyl wrth Dduw, a doi gar bron
ei wyneb tirion cannaid.