Llyfr y Psalmau,: wedi eu cyfieithu, a'u cyfansoddi ar fefur cerdd, yn gymraeg. / Drwy waith Edmund Prys archdiacon Merionydd.

About this Item

Title
Llyfr y Psalmau,: wedi eu cyfieithu, a'u cyfansoddi ar fefur cerdd, yn gymraeg. / Drwy waith Edmund Prys archdiacon Merionydd.
Author
Prys, Edmund, 1544-1623.
Publication
Argraphwyd yng Haerludd :: Dros Thomas Jones. Ag ar werth drosto ef gan Mr. Charles Beard ..., a Mr. John Marsh ... yn Llundain,
1687.
Rights/Permissions

To the extent possible under law, the Text Creation Partnership has waived all copyright and related or neighboring rights to this keyboarded and encoded edition of the work described above, according to the terms of the CC0 1.0 Public Domain Dedication (http://creativecommons.org/publicdomain/zero/1.0/). This waiver does not extend to any page images or other supplementary files associated with this work, which may be protected by copyright or other license restrictions. Please go to http://www.textcreationpartnership.org/ for more information.

Subject terms
Psalters.
Bible. -- O.T.
Link to this Item
http://name.umdl.umich.edu/A76681.0001.001
Cite this Item
"Llyfr y Psalmau,: wedi eu cyfieithu, a'u cyfansoddi ar fefur cerdd, yn gymraeg. / Drwy waith Edmund Prys archdiacon Merionydd." In the digital collection Early English Books Online 2. https://name.umdl.umich.edu/A76681.0001.001. University of Michigan Library Digital Collections. Accessed June 11, 2024.

Pages

PSALM. XLII.

YR un wêdd ag y brêf yr hŷdd am yr a fonydd dyfroedd: Felly y mae fy hiraeth i am danat ti Duw 'r nefoedd. [verse 2] Fy enaid i sychedig yw, am fy Nuw byw, a'i gariad: Pa brŷd y dôf fi gar dy fron, fy Nuw a'm cyfion ynad?
[verse 3] Fy nagrau oeddynt ddŷdd a nôs yn fwyd ym', achos gofyn Ym am fy Nuw bôb pen awr bâch, ple mae fo bellach? meddyn, [verse 4] O gofio hyn wrchyf fy hûn fel tywallt ffun fy enioes: Ynghŷd a theulu Duw yr awn, be cawn fy meddwl eisoes.
Hyd at dŷ Dduw yn ystig iawn yr awn dan ganu clodydd, Fel tyrfa a fai'n cadw gŵyl. hyn bum iw ddisgwyl beunydd. [verse 5] Trwm wyd f' enaid o'm mewn: paham y rhoi brudd lam ochenaid? [verse 6] Disgwyl wrth Dduw, a doi gar bron ei wyneb tirion cannaid.
[verse 7] Fy enaid o'm mewn pan so prŷdd, a â yn rhŷdd o'th gofion, A chofio yr Iorddonen iâch, a'r mynydd bâch o Hermon, [verse 8] Dyfnder îs dyfnderau y sŷdd, ac ar eu gilydd galwant; A dŵfr pôb ffrwd, pôb llîf, pôb ton, hwy dros fy mron a aethant.
[verse 9] Fy Nâf a roes y dŷdd ym'hêdd, a'r nôs gyfannedd ganu, I ganmawl fy Nuw, hwn a roes ym' einioes iw foliannu. [verse 10] Paham im gedyt dros gôf cŷd? Duw, wrthyd yr achwynaf: Er gorthrymder y gelyn cam, mewn galar pa'm y rhodiaf?
[verse 12] Trwy f' esgyrn taro cleddyf llym mewn gwarthlid ym, oedd edliw Ym 'om gelynion er fy'ngwae, dy Dduw p'le mae fo heddiw? [verse 13] Trwm wyd f enaid o'm mewn: paham y rhoi brudd lam ochenaid? [verse 14] Disgwyl wrth Dduw, a doi gar bron ei wyneb tirion cannaid.
Do you have questions about this content? Need to report a problem? Please contact us.