PSAL. II.
PAham y terfysc gwŷr y bŷd,
a pham y cyfyd rhodres?
Pam mae 'r bobloedd yn cyd-wau,
yn eu bwriadau diles?
[verse 2] Codi y mae brenhineodd byd,
a'i bryd yn gyd-gynghorol:
Yn erbyn Duw a christ (ein plaid)
y mae pennaethiaid bydol.
[verse 3] Drylliwn eu rhwymau, meddant hwy,
ni wnawn ni mwy vfydd-dod:
Ac ymaith taflwn eu trom iau,
Ni chânt yn frau mo'n gorfod.
[verse 4] Ond Duw 'r hwn sydd vwch wybrol len
a chwardd am ben eu geiriau:
Yr Arglwydd nef a wel eu bâr,
efe a'i gwatwar hwythau.
[verse 5] Yna y dywaid yn ei lîd,
a hyn fydd rhybrid iddyn:
O'i eiriau ef y cyfyd braw,
a'i ddig a ddaw yn ddychryn.
[verse 6] Gosodais innau (meddai ef)
â llaw gref yn dragywydd,
Fy mrenin i, yn llywydd llon,
ar sanctaidd Sion fynydd.
[verse 7] Dymma'r ddeddf a ddwedai yn rhwydd,
hon gan yr Arglwydd clywais:
Ti yw fy mab (o'm perffaith ryw)
heddyw i'th genhedlais.
[verse 8] Gofyn ym, a mi yt' a'i rhŷdd,
holl wledydd iw 'tifeddu:
Y cenhedlaethau dros y bŷd,
i gyd a gai' meddiannu.
[verse 9] Ti a'i briwi hwynt yn dy farn,
â gwialen hayarn hayach:
Ti a'i maluri, hwythau ân
mor fân a llestri priddach.