Llyfr y Psalmau,: wedi eu cyfieithu, a'u cyfansoddi ar fefur cerdd, yn gymraeg. / Drwy waith Edmund Prys archdiacon Merionydd.

About this Item

Title
Llyfr y Psalmau,: wedi eu cyfieithu, a'u cyfansoddi ar fefur cerdd, yn gymraeg. / Drwy waith Edmund Prys archdiacon Merionydd.
Author
Prys, Edmund, 1544-1623.
Publication
Argraphwyd yng Haerludd :: Dros Thomas Jones. Ag ar werth drosto ef gan Mr. Charles Beard ..., a Mr. John Marsh ... yn Llundain,
1687.
Rights/Permissions

To the extent possible under law, the Text Creation Partnership has waived all copyright and related or neighboring rights to this keyboarded and encoded edition of the work described above, according to the terms of the CC0 1.0 Public Domain Dedication (http://creativecommons.org/publicdomain/zero/1.0/). This waiver does not extend to any page images or other supplementary files associated with this work, which may be protected by copyright or other license restrictions. Please go to http://www.textcreationpartnership.org/ for more information.

Subject terms
Psalters.
Bible. -- O.T.
Link to this Item
http://name.umdl.umich.edu/A76681.0001.001
Cite this Item
"Llyfr y Psalmau,: wedi eu cyfieithu, a'u cyfansoddi ar fefur cerdd, yn gymraeg. / Drwy waith Edmund Prys archdiacon Merionydd." In the digital collection Early English Books Online 2. https://name.umdl.umich.edu/A76681.0001.001. University of Michigan Library Digital Collections. Accessed June 13, 2024.

Pages

PSAL. II.

PAham y terfysc gwŷr y bŷd, a pham y cyfyd rhodres? Pam mae 'r bobloedd yn cyd-wau, yn eu bwriadau diles?
[verse 2] Codi y mae brenhineodd byd, a'i bryd yn gyd-gynghorol: Yn erbyn Duw a christ (ein plaid) y mae pennaethiaid bydol. [verse 3] Drylliwn eu rhwymau, meddant hwy, ni wnawn ni mwy vfydd-dod: Ac ymaith taflwn eu trom iau, Ni chânt yn frau mo'n gorfod.
[verse 4] Ond Duw 'r hwn sydd vwch wybrol len a chwardd am ben eu geiriau: Yr Arglwydd nef a wel eu bâr, efe a'i gwatwar hwythau. [verse 5] Yna y dywaid yn ei lîd, a hyn fydd rhybrid iddyn: O'i eiriau ef y cyfyd braw, a'i ddig a ddaw yn ddychryn.
[verse 6] Gosodais innau (meddai ef) â llaw gref yn dragywydd, Fy mrenin i, yn llywydd llon, ar sanctaidd Sion fynydd. [verse 7] Dymma'r ddeddf a ddwedai yn rhwydd, hon gan yr Arglwydd clywais: Ti yw fy mab (o'm perffaith ryw) heddyw i'th genhedlais.
[verse 8] Gofyn ym, a mi yt' a'i rhŷdd, holl wledydd iw 'tifeddu: Y cenhedlaethau dros y bŷd, i gyd a gai' meddiannu. [verse 9] Ti a'i briwi hwynt yn dy farn, â gwialen hayarn hayach: Ti a'i maluri, hwythau ân mor fân a llestri priddach.

Page [unnumbered]

[verse 10] Am hyn yn awr frenhinoedd coeth, byddwch ddoeth a synhwyrol▪ A chwithau farnwyr cymrwch ddysg, i ostwng terfysg fydol. [verse 11] Gwasanaethwch chwi yr Arglwydd nef, ac ofnwch ef drwy oglud: A byddwch lawen yn Nuw cû, etto trwy grynu hefyd.
[verse 12] Cusenwch y mab rhag ei ddig, a'ch bwrw yn ffyrnig heibio! A gwyn ei fŷd pob calon lân, a ymddiriedan yntho.
Do you have questions about this content? Need to report a problem? Please contact us.