Llyfr y Psalmau,: wedi eu cyfieithu, a'u cyfansoddi ar fefur cerdd, yn gymraeg. / Drwy waith Edmund Prys archdiacon Merionydd.

About this Item

Title
Llyfr y Psalmau,: wedi eu cyfieithu, a'u cyfansoddi ar fefur cerdd, yn gymraeg. / Drwy waith Edmund Prys archdiacon Merionydd.
Author
Prys, Edmund, 1544-1623.
Publication
Argraphwyd yng Haerludd :: Dros Thomas Jones. Ag ar werth drosto ef gan Mr. Charles Beard ..., a Mr. John Marsh ... yn Llundain,
1687.
Rights/Permissions

To the extent possible under law, the Text Creation Partnership has waived all copyright and related or neighboring rights to this keyboarded and encoded edition of the work described above, according to the terms of the CC0 1.0 Public Domain Dedication (http://creativecommons.org/publicdomain/zero/1.0/). This waiver does not extend to any page images or other supplementary files associated with this work, which may be protected by copyright or other license restrictions. Please go to http://www.textcreationpartnership.org/ for more information.

Subject terms
Psalters.
Bible. -- O.T.
Link to this Item
http://name.umdl.umich.edu/A76681.0001.001
Cite this Item
"Llyfr y Psalmau,: wedi eu cyfieithu, a'u cyfansoddi ar fefur cerdd, yn gymraeg. / Drwy waith Edmund Prys archdiacon Merionydd." In the digital collection Early English Books Online 2. https://name.umdl.umich.edu/A76681.0001.001. University of Michigan Library Digital Collections. Accessed June 12, 2024.

Pages

PSAL. XXIX.

RHowch i'r Arglwydd, a rhowch yn chwyrn, chwi blant y cedyrn, foliant: Cydnabyddwch ei barch,, a'i nerth, mor brydferth, a'i ogoniant. [verse 2] Rhoddwch i enw yr Arglwydd glod, heb orfod mwy mo'ch cymmell, Addolwch Arglwydd yr holl fyd, mor hyfryd yw ei Babell!
[verse 3] Llais yr Arglwydd sydd vwch dyfroedd, Duw cryf pair floedd y daran: Vwch dyfroedd lawer mae ei drwn; nid yw ei swn ef fychan. [verse 4] Llais yr Arglwydd, pan fytho llym, a ddengys rym a chyffro:

Page [unnumbered]

A llais yr Arglwydd a fydd dwys, fel y bo cymwys gantho.
[verse 5] Llais yr Arglwydd a dyr yn fân y Cedrwydd hirlân vnion, Yr Arglwydd a'dyr yn vswydd, y Cedrwydd o Libânon. [verse 6] Fel llwdn vnicorn neu lo llon fe wna'i Libanon lammu, [verse 7] A Sirion oll: llais ein Iôr glân a wna'i fflam dân wasgaru.
[verse 8] Llais yr Arglwydd, drwy ddyrys lyn, a godai ddychryn eres: Yr Arglywydd a wna ddychryn fflwch drwy holl anialwch Cades, [verse 9] Llais yr Arglwydd piau'r glod, pair i'r ewigod lydnu: Dinoetha goed: iw deml iawn yw i bob rhyw ei foliannu.
[verse 10] Yr Arglwydd gynt yn bennaeth oedd, ar y llif-ddyfroedd cethin: Yr Arglwydd fu, ef etto sydd, ac byth a fydd yn frenin. [verse 11] Yr Arglwydd a rydd iw bobl nerth, drwy brydferth gyfanneddwch. Yr Arglwydd a rydd ei bobl ymhlith ei fendith, a hir heddwch.
Do you have questions about this content? Need to report a problem? Please contact us.