PSAL. XXVIII.
A Tad (Iôn fy nerth) y rhof lêf,
Duw nêf na fydd di fyddar:
Os tewi, rhag fy mynd mor drîst,
a bôd mewn cîst dan ddaiar.
[verse 2] O Arglwydd, erglyw fy llais i;
a derbyn weddi bruddaid:
Pan gottwyf fy nwy law o bell,
Duw, tua'th gafell sanctaidd.
[verse 3] Ac na ddarostwng fi, fy Iôr,
dan ddwylo'r annuwolion:
Y rhai sy'n arwain mînau mêl,
a rhyfel yn eu calon.
[verse 4] Yn ôl bwriad eu calon gau,
a'r twyll ddyfeisiau eiddynt,
Yn eu drŵg weithredoedd hwy,
Duw tâl eu gobrwy iddynt.
[verse 5] Am na 'styriant weithredoedd Duw,
ef a wna ddistryw arnynt:
Am na welent ei wŷrth a'i râd,
ni wnâ adeilad honynt.
[verse 6] Bendigaid fytho'r Arglwydd nêf,
fe glybu lef fy'ngweddi:
[verse 7] Yr Aaglwydd yw fy nerth, a'm rhan,
a'm tarian, a'm daioni.
Ymddiriedais iddo am horth
a chefais gymorth gantho:
Minnau o'm calon, drwy fawr chwant,
a ganaf foliant iddo.
[verse 8] Yr Arglwydd sydd nerth i bob rhai,
a ymddiriedai'n hylyn;
A'i eneiniog ef a fydd maeth,
ac iechydwriaeth iddyn.
[verse 9] Gwared dy bobl dy hun yn dda,
bendithia d'etifeddiaeth:
Bwyda, cyfod hwy, am ben hyn
dôd iddyn dragwyddolfaeth.