Llyfr y Psalmau,: wedi eu cyfieithu, a'u cyfansoddi ar fefur cerdd, yn gymraeg. / Drwy waith Edmund Prys archdiacon Merionydd.

About this Item

Title
Llyfr y Psalmau,: wedi eu cyfieithu, a'u cyfansoddi ar fefur cerdd, yn gymraeg. / Drwy waith Edmund Prys archdiacon Merionydd.
Author
Prys, Edmund, 1544-1623.
Publication
Argraphwyd yng Haerludd :: Dros Thomas Jones. Ag ar werth drosto ef gan Mr. Charles Beard ..., a Mr. John Marsh ... yn Llundain,
1687.
Rights/Permissions

To the extent possible under law, the Text Creation Partnership has waived all copyright and related or neighboring rights to this keyboarded and encoded edition of the work described above, according to the terms of the CC0 1.0 Public Domain Dedication (http://creativecommons.org/publicdomain/zero/1.0/). This waiver does not extend to any page images or other supplementary files associated with this work, which may be protected by copyright or other license restrictions. Please go to http://www.textcreationpartnership.org/ for more information.

Subject terms
Psalters.
Bible. -- O.T.
Link to this Item
http://name.umdl.umich.edu/A76681.0001.001
Cite this Item
"Llyfr y Psalmau,: wedi eu cyfieithu, a'u cyfansoddi ar fefur cerdd, yn gymraeg. / Drwy waith Edmund Prys archdiacon Merionydd." In the digital collection Early English Books Online 2. https://name.umdl.umich.edu/A76681.0001.001. University of Michigan Library Digital Collections. Accessed June 11, 2024.

Pages

PSALM. I.

Y Sawl ni rodia, dedwydd yw yn ôl drwg ystryw gyngor, Ni saif ar ffordd troseddwyr, ffol, nid eiste 'n stôl y gwatwor. [verse 2] Ond ei holl serch ef fydd yn rhwydd, ar ddeddf yr Arglwydd vchod: Ac ar ei ddeddf, rhydd ddydd a nos, yn ddiddos ei fyfyrdod.
[verse 3] Ef fydd fel pren plan ar lan dôl. dwg ffrwyth amserol arno, Ni chrina 'i ddalen, a'i holl waith, a lwydda 'n berffaith iddo. [verse 4] Nid felly bydd y drwg di-rûs. ond fel yr ûs ar gorwynt: Yr hwn o'r tir a'i chwŷth a'i chwâl, anwadal fydd ei helynt.
[verse 5] Am hyn y drwg ni saif mewn barn o flaen y cadarn vniawn: Na'r pechaduriaid mawr eu bâr, ynghynulleidfa 'r cyfiawn [verse 6] Canys yr Arglwydd Dduw fel hyn, a edwyn ffyrdd gwirioniaid: Ar ef ni âd byth i barhau, mo lwybrau pechaduriaid.
Do you have questions about this content? Need to report a problem? Please contact us.