PSAL. XVII.
O Clyw gysiownder Arglydd mâd,
ystyr fy nâd i'th grybwyll,
Clust ymwrando a'r weddi fau
sydd o wefusau didwyll.
[verse 2] Disgwilia 'marn oddiwrthyt ti,
can's da y gweli'r vnion:
Profaist a gwyddost ganal nos
mor ddiddos ydyw' nghalon.
[verse 3] Pan chwiliaist fi (da yw dy gof)
ni chefaist ynof gamwedd,
Fy myfyr mâd na'm meddwl llaes,
na ddoed i faes o'm dannedd.
[verse 4] I ochel cydwaith dynion drwg,
drwy d'air a'th amlwg cyngor,
Ffordd y dyn trawsgryf haerllyd llym,
fe ddysgwyd ym ei hepgor.
[verse 5] Ond yn dy vnion lwybrau di,
Duw, cynal fi yn wastad,
Rhag llithro allan o'th iawn hwyl,
Duw disgwyl fy ngherddediad.
[verse 6] Galw yr wyf arnad, am dy fod
yn Dduw parod i wrando,
Gostwng dy glust, a chlyw yn rhodd
fy holl ymadrodd etto.
[verse 7] Cyfranna dy ddaionus râd,
(ti rhwn wyt geidwad ffyddlon)
I'r rhai sy'n ymroi dan dy law,
[verse 8] rhag broch, a braw y trowsion.
Cadw fi'n anwyl rhag eu twyll,
fel anwyl ganwyll llygad:
Ynghysgod dy adenydd di,
o cadw fi yn wastad:
[verse 9] Rhag yr annuwiol a'i mawr bwys,
a rhag fy'nghyfrwys elyn,
Y rhai a gais fy enaid i,
gan godi yn fy erbyn.
[verse 10] Maent hwy mor dordyn ac mor frâs,
ac yn rhy gás eu geiriau:
Ac yn rhoi allan ffrost ar led,
gan falched eu para blau.