PSAL. CXLIX.
CEnwch i'r Arglwydd, ac iawn fŷdd,
ryw ganiad newydd rhyfedd:
A chlywer ynghynlleidfa 'r Sainct,
ei fawr fraint a'i orfoledd.
[verse 2] Boed Israel lawen a ffraeth,
yn Nuw a'i gwnaeth yn ddibrin:
A byddant hyfryd blant Seion,
yn Nuw eu tirion frenin.
[verse 3] Molant ei Enw ar y bibell,
a thympanell, a thelyn;
[verse 4] Can's bodlon yw iw bobl i gŷd,
rhŷdd iechyd i'r lledneis-ddŷn.
[verse 5] Iw Sainct êf doed gorfoledd iawn,
a hon yn llawn gogoniant,
Yn eu gwlâu, (yn llawen ddull)
ac yn eu stefyll canant.
[verse 6] Yn eu genu bŷdd cerdd bôb awr,
ein Duw a'i fawr ryfeddod,
Ac yn eu dwylaw bŷdd iw drîn,
y cleddyf deufin parod;
[verse 7] Ar estroniaid i'n dial ni,
ac i gosp boeni'r bobloedd:
[verse 8] I roi mewn caethder cadwyn drô,
i rwymo ei brenhinoedd.
I roi eu pendefigion chwyrn,
mewn gefyn heyrn ffyrnig.
[verse 9] I wneuthur arnynt vnion farn,
yn gadarn scrifennedig.
Dymma 'r glân ardderchowgrwydd fŷdd
iw sainct y sŷdd yn credu;