PSAL. CXLVIII.
O Molwch yr Arglwydd o'r nêf,
rhowch lêf i'r vchel-leoedd.
[verse 2] Molwch hwn holl angylion nêf,
molwch êf ei holl luoedd.
[verse 3] Yr haul, a'r lleuad, a'r holl sër,
y gloywder, a'r goleuni.
[verse 4] Nêf y nefoedd, a'r ffurfafen,
a'r deifr vwh ben y rheini.
[verse 5] Moliannant enw'r Arglwydd nêf,
hwynt â'i air êf a wnaethbwyd.
Dwedodd y gair, a hwy fal hyn
ar ei orchymmyn crewyd.
[verse 6] Rhoes reol iddynt i berhâu.
fel deddfau bŷth iw dilyn:
Rhoes bôb pêth yn ei le'n ddi os,
nad elo dros ei derfyn.
[verse 7] Molwch yr Arglwydd o'r ddaiar,
chwychwi ystrywgar ddreigiau,
[verse 8] Y tân, a'r cenllysg, eira, a tharth,
a'r gwynt o bôb parth yntau,
[verse 9] Mynny ddoedd, bryniau, ffrwythlon wŷdd
a'r tirion gedrwŷdd brigog,
[verse 10] An'feilieid, ac ymglusgiaid maes
ac adar llaes asgellog.
[verse 11] Brenhinoed daiar, barnwŷr-bŷd,
swyddwŷr ynghŷd â'r bobloedd,
[verse 12] Gwŷr ievaingc, gwŷryfon, gwŷr hên,
pôb bachgen ym mhôb oesoedd.
[verse 13] Molant ei enw êf ynghŷd,
vchel a hyfryd ydoedd,
Ei enw êf sydd vchel ar
y ddaiar oll, a'r nefoedd.
[verse 14] Can's corn ei bobl a dderchafawdd,
yn fawl a nawdd i'r eiddo,
I Israel ei etholedig,
a drîg yn agos atto.