PSAL. CXLVII.
MOlwch yr Arglwydd, can's da yw,
canu i Dduw yn llafar:
O herwydd hyfryd, yw ei glôd,
a da yw bôd yn ddiolchgar.
[verse 2] Caersalem dinas gyflawn fŷdd,
yr Arglwyd sŷdd iw darpar:
Gan gasglu Israel ynghŷd,
a fu drwy'r bŷd ar wasgar.
[verse 3] Yr vnig Arglwydd sy'n iachâu,
yn rhŷdd o friwiau'r galon;
Yr Arglwydd rhwym 'eu briwiau'n iawn
y rhai dolur lawn cleifion.
[verse 4] Yr Arglwydd sydd yn rhifo'r sêr.
a phôb rhyw nifer honynt:
Ef a'u geilw hwynt oll yn glau,
wrth briod enwau eiddynt.
[verse 5] Mawr yw ein Arglwydd ni o nerth,
a phrydferth o rasoldeb;
Ac mae'n bell iawn uwch ben pôb rhîf,
sôn am ei brîf ddoethineb.
[verse 6] Yr Arglwydd vnig sydd yn dal
i gynnal y rhai gweiniaid,
Ac êf a ostwng hyd y llawr
y dorf fawr annuwioliaid.
[verse 7] Cenwch i'r Arglwydd fel y gwêdd,
clodforedd iddo a berthyn:
O cenwch, cenwch gerdd i'n Duw,
da ydyw gydâ'r delyn:
[verse 8] Hwn â chymylau toes y nen,
â glaw'r ddayaren gwlychodd,
I wellt gwnaeth dyfu ar y fron.
a llysiau'i ddynion parodd.
[verse 9] Hwn i'r anifail ar y bryn
a rŷdd yr hyn a'i portho:
Fe bortha gywion y cigfrain,
pan fo'n llefain arno.
[verse 10] Nid oes gantho mewn grym vn march,
na serch, na phârch, na phleser: